Y Llywodraeth yn cymeradwyo rhaglen ddigidol ranbarthol gwerth £55 miliwn

0
453

Mae rhaglen gwerth £55 miliwn a fydd yn helpu i roi seilwaith digidol o’r radd flaenaf i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe wedi’i chymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Amcangyfrifir bod rhaglen Seilwaith Digidol Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn werth £318 miliwn i’r rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod, a bydd y rhaglen o fudd i drigolion a busnesau ym mhob rhan o Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Arweinir y rhaglen gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae’n cynnwys tair elfen:

Lleoedd sydd â seilwaith digidol: Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad cystadleuol at gysylltedd ffibr llawn

Gwledig: Gwella mynediad i fand eang yng nghymunedau gwledig y rhanbarth

Rhwydweithiau diwifr y genhedlaeth nesaf: Paratoi’r ffordd i’r rhanbarth elwa ar 5G ac arloesedd y ‘Rhyngrwyd Pethau’

Mae cael cymeradwyaeth gan y Llywodraeth yn golygu bod y rhaglen Seilwaith Digidol bellach yn gallu dechrau cael swm o £25 miliwn a fydd yn cael ei gyfrannu’n rhan o’r Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd i ddod.

Ar hyn o bryd mae Rheolwr y Rhaglen yn recriwtio tîm o weithwyr proffesiynol i ddarparu tair elfen y rhaglen mewn partneriaeth â rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol, darparwyr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. (link)

Yn ystod y 12 mis nesaf, gofynnir am denantiaid allweddol i sbarduno buddsoddiad mewn ffeibr yn Abertawe ac yn rhannau trefol eraill y rhanbarth, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot. Bydd partner rhaglen strategol hefyd yn cael ei benodi, a bydd gwaith yn cael ei wneud i helpu awdurdodau lleol rhanbarthol i hybu defnydd o’r cynlluniau talebau band eang a chyllid arall i wella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig.

Mae cynlluniau eraill ar gyfer y rhaglen yn y flwyddyn nesaf yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant ffonau symudol i gynhyrchu gwell gwasanaeth yn y rhanbarth ar gyfer ffonau symudol. Bydd rhwydwaith di-wifr mynediad agored, eang hefyd yn cael ei ddefnyddio i wneud y gorau o’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ drwy gysylltu dyfeisiau cartref, busnes a symudol â’r rhyngrwyd, a fydd yn galluogi gwell penderfyniadau a gwell effeithlonrwydd. Mae hyn yn cynnwys cartrefi clyfar, amaethyddiaeth glyfar a thechnoleg gweithgynhyrchu clyfar, yn ogystal â thechnoleg y gellir ei gwisgo yn y sectorau gofal iechyd a chymorth byw.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cysylltedd digidol o safon uchel. Mae cysylltedd digidol yn sail i gymaint o fywyd bob dydd y dyddiau hyn, boed hynny’n bobl sy’n mynd ar-lein i wirio eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu’n fusnesau sy’n cysylltu â chwsmeriaid neu’n anfon ac yn cael gwybodaeth.

“Mae cael cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen hon yn newyddion arbennig ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe oherwydd bydd yr hyn sydd wedi’i gynllunio’n helpu i ddiogelu ein seilwaith digidol am nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn hanfodol oherwydd, yn ogystal â bod o fudd i drigolion a busnesau nawr, bydd y rhaglen hefyd yn paratoi’r rhanbarth i elwa ar arloesi digidol yn y dyfodol mewn byd lle mae pethau’n symud yn gyflym.

“Mae ffrydiau gwaith trefol a gwledig wedi’u cynllunio’n rhan o’r rhaglen i sicrhau bod pob rhan o’r Dinas-ranbarth yn cael cyfleoedd i gael gwell cysylltedd digidol.

“Bydd hyn yn annog ein busnesau i aros yn y rhanbarth, gan helpu hefyd i ddenu rhagor o fuddsoddi a chyfleoedd am swyddi yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

“Ynghyd â phrosiectau a rhaglenni eraill a gyllidir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd hyn yn cyflymu adferiad economaidd ein rhanbarth ar ôl Covid-19.”

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: “Mae’r pandemig Coronafeirws wedi tynnu sylw at bŵer a phwysigrwydd cysylltedd digidol o ran y modd rydym yn byw ac yn gweithio.

“Mae buddsoddi mewn cysylltedd digidol yn hanfodol ar gyfer ein llwyddiant yn y dyfodol a bydd y rhaglen hon yn hwb mawr i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe ac mae’n hanfodol o ran cysylltu pobl a lleoedd ledled yr ardal. Mae hefyd yn helpu i fynd i’r afael â materion cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, a denu mewnfuddsoddiad.

 “Rwyf yn llawn cyffro i weld sut y bydd y fenter bwysig hon o fudd i fusnesau a thrigolion wrth inni weithio i ddychwelyd i’r twf economaidd roeddem yn ei weld cyn y pandemig Coronafeirws.”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies: “Mae cysylltedd digidol cyflym a signal symudol cryf ledled Cymru yn hynod bwysig i’n heconomi, gan ddod â manteision sylweddol i unigolion a busnesau.

“Mae gwella ein seilwaith digidol yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU wrth i ni geisio cyflwyno band eang drwy un o’r prosesau cyflwyno cyflymaf yn Ewrop. Wrth i ni ymadfer a gwella ar ôl y pandemig, rydym yn parhau i gefnogi twf, swyddi, buddsoddi ac arloesi”

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn naw rhaglen a phrosiect yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, ac mae’n werth dros 9,000 o swyddi ac o leiaf £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol yn y blynyddoedd i ddod.

Yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle