Elusennau Iechyd Hywel Dda ar rediad ceir clasurol yn codi £ 7,001

0
302
Yn y llun yn y cyflwyniad siec, o'r chwith, mae Myfyriwr Nyrsio Dominika Szwab, Myfyriwr Nyrsio Peter Baker, Peter Stock a Mal Powell, Rheolwr Gwasanaeth Ysbyty Dros Dro Helen Johns, Clerc y Ward Angela Saunders, Nyrs Staff Kelly Robinson a'r Uwch Borthor Jimmy Duff.

Diolch yn fawr iawn i Malcolm Powell, a gododd swm arbennig o £7,001 i Ysbyty Llwynhelyg trwy drefnu taith geir clasurol yn Sir Benfro.

Mae’r gwr 72 oed o Ddoc Penfro wedi bod yn trefnu teithiau ceir elusennol am y 40 mlynedd diwethaf

Roedd 125 o geir clasurol yn cymryd rhan yn y daith ar 12 Ebrill, a ddechreuodd o Fort Road yn Noc Penfro ac a aeth ymlaen heibio ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, cyfanswm o 44 milltir.

Yn wreiddiol, roedd Malcolm wedi gobeithio codi £500 ond ei gyfanswm terfynol oedd £7,001, gan gynnwys rhodd hael o £3,225 gan asiantaeth Penfro o NFU Mutual a rhodd o £500 gan y cwmni tanwydd lleol Valero.

Meddai Malcolm: “Ar ôl y flwyddyn rydyn ni wedi’i gael rydw i eisiau rhoi yn ôl i’r GIG. Meddyliais beth allai ei wneud? Mae fy wyres yn barafeddyg a dwi’n meddwl bod y staff yn y GIG i gyd yn bobl wych.

“Roedd trefnu’r daith yn eithaf heriol ond rwy’n ffodus gan fod gen i dîm gwych o wirfoddolwyr a chefnogaeth.”

“Roedd y tywydd ar ein hochr ni. Dau gar yn unig a waneth dorri lawr, felly rydyn ni’n cyfri hynny fel diwrnod da.

“Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd, waeth pa mor fawr neu fach – fe wnaethoch chi wahaniaeth mawr. Hoffwn ddweud diolch i Simon Dixon, Roger Griffiths a Janette Lindsey am eu cefnogaeth gyda’r codi arian. Yn olaf, diolch yn arbennig i NFU Mutual a Valero am eu rhoddion hael iawn. ”

Dywedodd Janice Cole-Williams, Rheolwr Cyffredinol yn Ysbyty Llwynhelyg, eu bod am ddweud diolch enfawr i Malcolm, yr holl godwyr arian a phawb a roddodd arian yn garedig iawn i Ysbyty Llwynhelyg.

Ychwanegodd: “Mae’n anhygoel clywed am swm mor arbennig yn cael ei godi er mwyn diolch i’n timau am eu gwaith yn ystod y pandemig. Byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sydd o fudd uniongyrchol i staff, y mae pob un ohonynt wedi gwneud, ac yn parhau i wneud, gwaith gwych o dan amgylchiadau heriol. ”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle