|
Mae adroddiad annibynnol wedi datgelu bod aelwydydd yng Nghymru sy’n gwsmeriaid i Ddŵr Cymru’n fwy bodlon ar eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar y cyfan na chwsmeriaid yn Lloegr, ac mae’r cwmni’n dal i fod gyda’r gorau yn y sector dŵr am ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid.
Yn ôl adroddiad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW), roedd lefelau ymddiriedaeth a boddhad cwsmeriaid yn uwch yng Nghymru – lle’r cwmni nid-er-elw Dŵr Cymru yw’r darparydd mwyaf – o ran gwasanaethau dŵr, carthffosiaeth ac adwerthu, ac am werth am arian hefyd. Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae hynny’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo – ac mae’n buddsoddi unrhyw arian y mae’n ei wneud yn ei wasanaethau ac er budd ei gwsmeriaid. Llwyddodd y cwmni, sydd â gweledigaeth i ennill ffydd ei gwsmeriaid bob un dydd, i gynnal sgoriau uchel ar draws yr holl gategorïau, a rhagorodd ar ei ganlyniadau blaenorol ym maes gofal ac ymddiriedaeth, yn ogystal â boddhad cyffredinol â’r gwasanaethau cyflenwi dŵr a charthffosiaeth. Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yw cynrychiolydd annibynnol defnyddwyr dŵr domestig a busnes yng Nghymru a Lloegr a chadarnhaodd ei adroddiad bod:
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau newydd dros y 12 mis diwethaf er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid yn ystod pandemig Covid 19. Mae hyn wedi cynnwys cynorthwyo 5,000 o aelwydydd mewn angen ariannol, gohirio taliadau tua 45,000 o fusnesau a orfodwyd i gau am gyfnod yn sgil cyfyngiadau cymdeithasol y Llywodraeth, ac ychwanegu dros 340,000 o gwsmeriaid bregus at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth i gael cymorth ychwanegol petai problem gyda’u cyflenwadau yn ystod y pandemig. Mae’r cwmni’n dal i arwain y sector hefyd trwy gynorthwyo dros 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau dŵr. Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Fel yr unig gwmni nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, mae darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn, a dyna yw ein blaenoriaeth bennaf. “Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigynsail ac ymestynnol wrth i ni ymateb i COVID-19 a chynnal ein gwasanaethau o dan amodau anodd iawn. Rydyn ni’n benderfynol o adeiladu rhagor ar hyn, a sicrhau ein bod ni’n diwallu disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys harneisio newid technolegol er mwyn darparu gwasanaeth wedi ei bersonoleiddio ar gyfer cwsmeriaid, a hynny wrth gynnal gwasanaethau o safon uchel a gwerth da am arian.” |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle