Arddangosfa newydd bwerus yn archwilio effaith ail gartrefi

0
306
Caption: Opening on Saturday 3 July in the St Davids Room, Gwales explores the themes of forgetting, oblivion, escapism and the gentrification of the wild through sculpture, film and sound.

Ynys fythol a chwestiynau sy’n procio’r meddwl am ddyfodol y Gymru wledig yw ysbrydoliaeth arddangosfa newydd fawr yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc gan yr artist lleol, Ben Lloyd.

Bydd Gwales yn agor ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf yn Ystafell Dewi Sant, ac mae’n edrych ar y themâu o anghofio, ebargofiant, dihangdod a boneddigeiddio’r gwyllt drwy gerflunwaith, ffilm a sain.

Gan ddefnyddio profiad yr artist ei hun o gael ei fagu ym Mhenrhyn Tyddewi, ynghyd â chysyniad Osi Rhys Osmond o ‘Alzheimer Diwylliannol’ – a ddefnyddir i esbonio’r modd yr anghofir hunaniaeth Gymreig – mae Gwales yn edrych ar effaith perchnogaeth ail gartrefi ar boblogaethau lleol.

Mae’r arddangosfa’n cyfuno deunyddiau a gwrthrychau cyffredin o adeiladau fferm, sy’n edrych yn bethau hawdd i’w gadael, ond sy’n annog gwylwyr i ystyried y teuluoedd, y cymunedau, y dreftadaeth a’r naws leol y maent yn eu cynrychioli.

Dywedodd Ben Lloyd: “Daw teitl yr arddangosfa o Ail Gainc y Mabinogi, lle mae grŵp o gymdeithion yn byw am 80 mlynedd hapus mewn palas marmor, gan anghofio am y byd y tu allan, nes bod drws gwaharddedig yn cael ei agor ac mae realiti yn dychwelyd.

“Mewn cyd-destun cyfoes, mae agor drws gwaharddedig Gwales yn golygu sylweddoli, yng ngeiriau’r bardd Mererid Hopwood, “na allwn fyw’n ynysig a chymryd arnom fod popeth yn iawn, ond rhaid edrych a gweld a gweithredu.”

Astudiodd Ben Lloyd mewn ysgolion celf yng Nghaerfyrddin, Lerpwl a Chaerdydd, cyn dychwelyd i fyw a gweithio yn Sir Benfro yn 2004. Mae wedi arddangos yn helaeth mewn arddangosfeydd grŵp ac unigol, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Liverpool Biennial, a g39 a Chapter Caerdydd. Mae ei waith blaenorol wedi canolbwyntio ar drefedigaethau iwtopaidd, fel y gobeithion o baradwys pell yn yr Unol Daleithiau i Grynwyr a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yng Ngorllewin Cymru (The Road to New York, 2015), a sefydlu Freetown, Sierra Leone, a’i diwylliant Krio (Empire Kiosk, 2010).

Mae Gwales wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn cael ei arddangos tan ddydd Sul 2 Awst 2021.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n rheoli ac yn berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a dyma gartref Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc ewch i www.orielyparc.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle