STORI DDA I SICRHAU LLWYDDIANT -BUSNESAU MOCH YNG NGHYMRU AM ELWA O PR AM DDIM

0
329

Does dim byd tebyg i stori dda i roi busnes ar y map a sicrhau bod y cyhoedd yn siarad amdanoch chi

Bydd menter newydd gan Menter Moch Cymru, “Trotian ar draws Cymru”, yn cynorthwyo cynhyrchwyr moch i hyrwyddo ei busnes. Os ydych chi’n fusnes cychwynnol neu’n fusnes sefydledig cysylltwch â ni heddiw, gall pob un ohonom gael budd o ychydig o PR cadarnhaol.

Bydd stori dda yn hyrwyddo eich busnes a hefyd yn helpu i adeiladu eich cwmni a gobeithio yn cynyddu eich nifer o gwsmeriaid.

Dywedodd Lowri Rees Roberts, Swyddog Marchnata a Chefnogi Menter Moch Cymru: “Mae pawb angen help llaw i hyrwyddo eu busnes a bydd y fenter hon yw helpu pob un ohonoch i gael eich straeon cadarnhaol allan yn y wasg leol.”

Rwyf wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd ac wedi sicrhau eu straeon positif yn y wasg. Gobeithio bydd hwn yn gyfle i fi weithio gyda nifer o gynhyrchwyr moch yn y dyfodol agos,” ychwanegodd Lowri.

Bydd Menter Moch Cymru yn helpu cynhyrchwyr yng Nghymru i greu eu straeon unigryw eu hunain a gobeithio rhoi sylw mewn cylchgronau, papurau newydd ac ar-lein.

Mae’r fenterTrotian ar draws Cymru’ yn gobeithio gweithio gyda chynhyrchwyr moch o bob un o’r 22 sir yng Nghymru, felly byddwch y cyntaf i fynegi eich diddordeb heddiw.

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle