Bu’n rhaid i sesiynau cyd-ganu Elusen Golden-Oldies gau eu drysau oherwydd cyfnod clo Covid fis Mawrth diwethaf.
Ers ei lansio 13 mlynedd yn ôl yng ngorllewin Lloegr, roedd ‘Goldies’ fel y caiff ei alw fel arfer wedi tyfu i’r pwynt lle’r oedd yn cynnal dros 200 sesiwn yn ystod y dydd ar draws Lloegr a Chymru. Roedd 70 o arweinwyr llawrydd ymroddedig yn arwain y sesiynau mewn neuaddau eglwys, ystafelloedd cymunedol a llyfrgelloedd o Swydd Efrog i Gernyw, ar draws Lloegr a thrwy Dde Cymru fel Goldies Cymru.
Roedd y sesiynau yn hwb i fywydau miloedd o bobl hŷn ynysig. Dywedodd astudiaeth academaidd ym mis Chwefror 2020: “Dengys y gwerthusiad yn glir fod Goldies yn gwneud cyfraniad sylweddol at ostwng ynysigrwydd ac unigrwydd ymysg y boblogaeth hŷn.”
Gydag atal y sesiynau byw yn ystod y dydd, aeth yr elusen ar-lein wedyn gyda sesiynau ‘canu soffa’ wythnosol yng ngofal yr arweinwyr Rachel Parry a Cheryl Davies.
Dywedodd Grenville Jones, sefydlydd Goldies: “Dechreuodd GoldiesLive.com gydag un sesiwn yr wythnos ond dros y misoedd rydym wedi tyfu i’r pwynt lle caiff mwy o sesiynau rheolaidd eu darlledu ar YouTube a Facebook bob dydd Mawrth a dydd Iau am 11am gyda sesiwn fisol ychwanegol yn y Gymraeg gyda Sian Francis ar ddydd Llun cyntaf y mis (dydd Llun nesaf 28 Mehefin).”
Mae’r sesiynau hefyd yn cynnwys Steph Bosanko sy’n arwain gydag ymarferion ysgafn y gall pobl eu gwneud adre yn eu cadeiriau ac mae llawer o arweinwyr sesiwn Goldies o Gymru a Lloegr hefyd yn cyfrannu gyda chynnwys fideos. Daeth sesiynau Bollywood Sarita Sood yn ffefryn gyda chyfranogwyr GoldiesLive.com.
Cefnogir y sesiynau gan Gronfa Gymunedol Loteri People’s Postcode a Sefydliad Moondance sydd â’i bencadlys yng Nghymru.
Mae Rachel a Cheryl yn rhoi sylw yn gyson i bynciau arbennig ar gyfer eu cynulleidfa ac ym mis Gorffennaf bydd y ffocws ar ganeuon yn canolbwyntio ar deuluoedd ac alawon sy’n dathlu’r Haf yn cynnwys, wrth gwrs, ‘Summer Holiday’ gan Syr Cliff Richard, sydd ei hun yn Llywydd Golden-Oldies.
Mae’r elusen yn gweithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gymdeithas Strôc, grwpiau cefnogi Dementia a llawer o grwpiau Age UK sy’n hyrwyddo’r sesiynau i’w cleientiaid hŷn.
Mae’n rhwydd ymuno â’r sesiynau drwy YouTube a Facebook ac mae’r elusen yn awr yn edrych ymlaen yn y gobaith y gall ailddechrau ar y sesiynau byw yn ystod y dydd cyn hir.
Fodd bynnag, bydd sesiynau GoldiesLive.com hefyd yn parhau hyd at Wanwyn 2022.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle