iolch i roddion, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu monitor cardiaidd ar gyfer cleifion yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
Defnyddir y monitor cardiaidd cludadwy i helpu i gynnal diogelwch cleifion yn ystod trosglwyddiadau i ysbytai eraill ar gyfer ymchwiliadau, gweithdrefnau ac ymyriadau cardiaidd.
Dywedodd Sian Azjan, Prif Nyrs fod y peiriant newydd yn fach iawn ac yn hawdd ei ddefnyddio, gyda sgrin gyffwrdd.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y rhoddion caredig sydd wedi gwneud prynu’r monitor cardiaidd hwn yn bosibl,” ychwanegodd Sian. “Mae’n ddarn rhagorol o offer, a ddefnyddir i fonitro cleifion pan fydd yn rhaid iddynt deithio rhwng ysbytai.”
Yn y llun (o’r chwith) yn Ysbyty Tywysog Philip mae’r Nyrs Gofrestredig Travis Davies, Myfyrwraig Nyrsio Chelsea Cook (yn dal y monitor cardiaidd newydd) a’r Nyrs Gofrestredig Nadine Hughes.
Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle