Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian pen-blwydd gan fenyw o Sir Benfro

0
331
Leza Williams Birthday Fundraising Pictire

Mae Leza Williams o Hwlffordd am gyfrannu ei rhoddion pen-blwydd yn 55 oed i Ysbyty Llwynhelyg ar ôl cael triniaeth canser a achubodd ei bywyd.

Roedd Leza yn 55 oed ar 12fed Mehefin a dywedodd ei bod am ddefnyddio’r achlysur i ddweud diolch enfawr i’r rhai sydd wedi ei chefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf ers ei diagnosis o ganser y fron – ei theulu a’i ffrindiau a’r ‘GIG rhyfeddol’.

Meddai: “Dechreuodd gydag apwyntiad meddyg ar ôl dod o hyd i lwmp yn fy nghesail chwith. Yn ystod yr apwyntiad hwnnw daeth y meddyg o hyd i lwmp yn fy mron.

“Er ein bod yng nghanol pandemig byd-eang, dechreuais gemotherapi lai na mis ar ôl dod o hyd i’r lwmp. Diolch byth nad oedd y canser wedi ymledu. Dydi dweud na wnaeth fy nhraed gyffwrdd â’r llawr ddim yn gelwydd.

“Yr hyn a ddilynodd oedd wyth rownd o gemotherapi dwys a’r angen am dri arhosiad ysbyty, ar yr Uned Canser Dydd, ward 10 ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn ystod pob arhosiad roedd pawb yn fy nghadw’n ddiogel. Roedd staff yr ysbyty yn wych.

“Cefais mastectomi, ac yna ymweliadau cartref gan nyrsys ardal. Ac rydw i nawr, diolch byth, ar fy siwrnai o adferiad.

“Fe wnaeth ymateb cyflym fy GIG lleol arbed fy mywyd! Roedd pawb yn anhygoel. ”

Bydd yr arian a godir yn mynd i helpu Uned Canser Dydd Ysbyty Llwynhelyg, Ward 10 a nyrsys Macmillan yn yr ysbyty.

Dywedodd Leza ei bod hefyd yn ddiolchgar iawn i’w theulu a’i ffrindiau am bopeth wnaethant iddi.

Ychwanegodd: “Rwyf am ddweud diolch i’m gŵr rhyfeddol am yr holl ofal ac amynedd y mae wedi’i roi. Hefyd, i’m holl blant a’u partneriaid, fy rhieni, teulu agos a ffrindiau. Maen nhw wedi fy nghodi, fy nghefnogi a fy helpu i symud ymlaen. Gormod i’w grybwyll!

“Roedd y risg o COVID-19 yn golygu fod bod gyda’n gilydd – hyd yn oed pan godwyd cyfyngiadau – yn amhosibl.

“Cynigiodd ffrindiau eu cartref eu hunain ar gyfer fy mhlant, fel y gallent ynysu er mwyn fy nghadw’n ddiogel a chwifio ar dros ffens ardd. Mae’r gweddïau, anrhegion, cardiau, bwyd, galwadau ffôn, negeseuon, y rhestr yn ddiddiwedd. Rydyn ni mor ddiolchgar. ”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn fod yr elusen yn ddiolchgar am y ymdrech codi arian Leza ar gyfer ei dathliadau pen-blwydd.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.” Os hoffech chi gyfrannu, ewch i: Leza Williams is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle