Partneriaeth yn llwyddo ennill nawdd i wella twristiaeth yng Nghydweli a Mynydd-y-garreg.
Mae Cyngor Tref Cydweli mewn partneriaeth gyda CBC Hwb Cymunedol Cydweli wedi llwyddo ennill nawdd o £270,000 i weithredu strategaeth ddwy flynedd gyda’r nod o gynyddu economi ymwelwyr Cydweli a Mynydd-y-garreg.
Nod Strategaeth Dwristiaeth y Gath Ddu yw cynyddu twristiaeth drwy gefnogi a datblygu digwyddiadau diwylliannol a thwristiaeth ar gyfer Cydweli a Mynyddygarreg.
Bydd y strategaeth yn cefnogi busnesau lleol i sicrhau nawdd a datblygu cynlluniau adfywio busnes.
Daw’r nawdd oddi wrth Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Gorffennaf 2021 hyd Fawrth 2023.
Bydd pedair swydd yn cael eu creu i gefnogi’r gymuned i wireddu’r strategaeth.
Dywedodd Maer Cydweli, y Cynghorydd Christopher Peters-Bond, “Yn 900 mlwydd oed, mae Cydweli yn dref hanesyddol sydd wedi’i bendithio gyda’i phrydferthwch naturiol – o’r Castell canoloesol i’r olygfa ogoneddus a geir o fynydd Mynydd-y-garreg.
“Mae twristiaeth yn bwysig i economi’r ardal, yn enwedig wrth i fwyfwy fynd ar eu gwyliau yn y wlad hon yn sgil y pandemig. Mae Strategaeth Dwristiaeth y Gath Ddu yn gyfle gwych i godi proffil Cydweli a Mynydd-y-garreg fel cyrchfan i dwristiaid.”
Dywedodd Crisial Davies, Cyfarwyddwr CBC Hwb Cymunedol Cydweli,
“Mae’r gymuned wrth eu boddau i gael y cyfle hwn i dderbyn nawdd oddi wrth Gronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gydnabod yr angen ar gyfer buddsoddiad mewn trefi glan mor fel Cydweli.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle