Clwb Ieuenctid Cymraeg cyntaf erioed Castell-nedd Port Talbot yn cael ei lansio ar gyfer pobl ifanc yng Nghwm Tawe a Dyffryn Aman

0
305
Pupils from Ysgol Gyfun Ystalyfera taking part in a taster session for the new youth club

Mae clwb ieuenctid Cymraeg cyntaf erioed Castell-nedd Port wedi cael ei lansio ar gyfer pobl ifanc sy’n byw yng Nghwm Tawe a Dyffryn Aman.

Lansiwyd y Clwb Ieuenctid Symudol gan Wasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot i roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a hefyd fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol. Bydd y clwb yn rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd â ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr a dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel.

Pupils from Ysgol Gyfun Ystalyfera taking part in a taster session for the new youth club

Bydd y clwb, a gaiff ei gynnal drwy’r iaith Gymraeg, ar agor i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed sy’n byw yng Nghwmllynfell, Pontardawe, Ystalyfera, Gwauncaegurwen, Godre’r-graig a Brynaman Isaf i ddechrau. Fodd bynnag, bydd cyfleoedd yn y dyfodol i bobl ifanc sy’n byw ar draws Castell-nedd Port Talbot ymuno. Mae croeso i bobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg ymuno â’r clwb hefyd.

Er y cynhelir y clwb yn rhithwir yn bennaf, mae gweithgareddau personol wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd i ddod. Caiff deunyddiau ac adnoddau eu hanfon at aelodau cyn y cyfarfod fel y gallant ymuno â’r gweithgareddau cynlluniedig drwy ddolen Microsoft Teams. Nid oes angen i aelodau greu cyfrif gyda Microsoft i allu ymuno. Caiff y gweithgareddau personol eu trefnu yn unol â chanllawiau COVID-19 sy’n cynnwys taith breswyl gynlluniedig i Langrannog, y ganolfan gweithgareddau awyr agored ar arfordir gorllewin Cymru.

Meddai’r Cyng. Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein clwb ieuenctid Cymraeg cyntaf erioed bellach ar agor i bobl ifanc sy’n byw yng Nghwm Tawe a Dyffryn Aman.”

Pupils from Ysgol Gyfun Ystalyfera taking part in a taster session for the new youth club

“Gyda llawer o bobl ifanc yn teimlo’n unig oherwydd y cyfyngiadau a achoswyd gan bandemig COVID-19, bydd y Clwb Ieuenctid Symudol yn ffordd wych o annog pobl ifanc i ryngweithio, cael hwyl a gwella’u lles yn gyffredinol.”

“Mae hefyd yn gyfle gwych i annog pobl ifanc i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

Meddai Erin Sandison, Maer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot, “Rwy’n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg ac adeiladu arnynt. Mae’n fy ngwneud i’n hapus iawn i wybod bod pobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd fel hyn i gadw’r Iaith Gymraeg yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Pupils from Ysgol Gyfun Ystalyfera taking part in a taster session for the new youth club

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r clwb wrth iddo dyfu ac rwy’n hapus i gefnogi’r prosiect hwn yn fy rôl fel Maer Ieuenctid.”

Llwyddodd Gwasanaeth Ieuenctid y cyngor i sicrhau cyllid ar gyfer y clwb drwy’r grant LEADER, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru’ch diddordeb, e-bostiwch y Gwasanaeth Ieuenctid yn youth.service@npt.gov.uk .

DIWEDD


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle