Dylai dyfodol Cymru fod yn nwylo Cymru – Plaid

0
247
Rhun ap Iorwerth AM, Leader of Plaid Cymru

Mewn ymateb i Lywodraeth Cymru yn nodi cynlluniau i gryfhau’r Deyrnas Unedig dwedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, 

“Mae profiad yn dangos i ni yn glir na fydd Llywodraeth y DU, boed yn goch neu’n las, byth yn rhoi Cymru gyntaf. Mae Llafur wedi bod yn sôn am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ers bron i ddegawd, gyda’r Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones yn addo hyn mor bell yn ôl â 2012. Ond does dim byd yn digwydd. Mae agwedd Llafur tuag at yr undeb i’w weld yn sownd yn y gorffennol.

“Dyw’r DG ddim ond yn fregus – mae’n methu’n llwyr o ran darparu cyfiawnder economaidd a chymdeithasol i bobl Cymru. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw trwy roi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru, yn rhydd o anhrefn ac anghymhwysedd San Steffan. Dyma pam mae’r gefnogaeth i annibyniaeth yn uwch nag erioed. Mae’n bryd i Lafur yng Nghymru roi’r gorau i amddiffyn yr anesgusodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle