Mae Adoption UK yn rhybuddio am argyfwng iechyd meddwl ymhlith rhai o blant mwyaf agored i niwed y DU, sy’n cael ei achosi gan fethiannau mewn system nad yw wedi’i sefydlu i ddiwallu eu hanghenion.
Mae adroddiad y Baromedr Mabwysiadu eleni yn datgelu bod dwy ran o dair (64%) o bobl wedi’u mabwysiadu 16+ mlwydd oed wedi ceisio cymorth gyda’u hiechyd meddwl, ac mae’r niferoedd yn codi. Mae bron i hanner (46%) o bobl wedi’u mabwysiadu 16-25 mlwydd oed yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl yn 2020, o’i gymharu â’r ffigur cenedlaethol o 17%.* Ac eto, mae’r rhan fwyaf yn dweud nad ydynt wedi gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc oedd wedi’u mabwysiadu wedi dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu drais yn eu blynyddoedd cynnar, gydag effeithiau parhaol ar berthnasoedd, dysgu ac iechyd, gan adael eu teuluoedd mabwysiadol i godi’r darnau pan nad oedd cymorth proffesiynol yn cael ei ddarparu.
Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Adoption UK yng Nghymru: “Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dywedodd dwy ran o dair o ymatebwyr y Baromedr eu bod yn wynebu ymdrech barhaus i gael cymorth. Yn rhy aml o lawer, mae’r teuluoedd hyn yn cael eu siomi gan system sy’n buddsoddi’n helaeth mewn lleoli plant i’w mabwysiadu, ac yna’n pylu i’r cefndir, yn aml gyda chanlyniadau ofnadwy i iechyd meddwl y plant a’u teuluoedd sy’n mabwysiadu.”
Mae canlyniadau’r arolwg yn amlygu canlyniadau methu â darparu cymorth cynnar a chyson i bobl ifanc wedi’u mabwysiadu. Roedd bron chwarter y bobl ifanc 16-25 mlwydd oed nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar ddiwedd 2020 – mwy na dwywaith mor debygol â chyfartaleddau’r DU. Mae cyfranogiad mewn gweithgareddau risg uchel a throseddol wedi cynyddu’n gyson ers y Baromedr Mabwysiadu cyntaf yn 2019. Mae problemau’n aml yn cael eu gwaethygu gan blant sy’n syrthio drwy’r craciau rhwng y gwasanaethau i blant a’r gwasanaethau i oedolion. Dywedodd bron i dri chwarter y rhieni fod cefnogaeth eu plentyn wedi lleihau neu wedi dod i ben pan oeddent yn mynd yn rhy hen i wasanaethau i bobl ifanc.
Dywedodd Mimi Woods, 18 mlwydd oed: “Rwy’n dioddef o salwch meddwl, sy’n gysylltiedig â thrawma yn fy ngorffennol. Digwyddodd hyn pan oeddwn yn ifanc iawn ond mae’n effeithio arnoch yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n dod o deimlad o deimlo nad oes unrhyw un eich eisiau a heb le, neu gysylltiad emosiynol â neb.
“Cefais gyfarfod â CAMHS lle eglurais fy mod yn sâl iawn ond doeddwn i ddim yn gwybod pam roeddwn i’n gwneud yr hyn roeddwn i’n ei wneud. Doedd gen i ddim teimladau ac roeddwn i eisiau dod â fy mywyd i ben. Cefais fy rhoi ar feddyginiaeth ond pan oedden nhw’n hapus nad oeddwn i’n mynd i wneud unrhyw beth, daeth y cyswllt i ben ac nid wyf wedi clywed ganddynt ers hynny.
“Rwyf wedi sylweddoli’n ddiweddar ei fod i gyd yn gysylltiedig â mi’n teimlo ar goll ynof fi fy hun. Rwy’n rhan o grŵp pobl ifanc wedi’u mabwysiadu ac mae pawb yn y grŵp wedi dioddef trawma, iselder a meddyliau hunanladdol.”
Mae arolwg y Baromedr hefyd yn dangos bod cyswllt â theulu biolegol yn aml yn gysgod mawr yn ystod y glasoed ac fel oedolyn ifanc. Roedd 22% o bobl ifanc 13-18 mlwydd oed mewn cysylltiad uniongyrchol ag aelod o’r teulu biolegol y tu allan i unrhyw gytundeb ffurfiol. I rai, mae hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd meddwl a sefydlogrwydd teuluol.
Pan fydd teuluoedd yn cael cymorth, mae eu hasesiadau o’i ansawdd a’r effaith ar eu teulu wedi cynyddu ar bob dangosydd ers y llynedd – cyflawniad sylweddol o ystyried y pandemig. Mae profiadau mabwysiadwyr yng Nghymru wedi gwella ar gam cymeradwyo a pharu, ac ymhlith teuluoedd â phlant hŷn, oherwydd buddsoddiad mewn gwasanaethau mabwysiadu yn 2019. Mae’r gronfa cymorth mabwysiadu covid brys yn Lloegr wedi cael ei chanmol yn eang gan deuluoedd.
Ychwanegodd Ann Bell: “Mae buddsoddiad diweddar mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn dechrau gwneud gwahaniaeth i deuluoedd sy’n mabwysiadu. Mae ymrwymiad i helpu pobl ifanc wedi’u mabwysiadu wrth iddynt nesáu at y newid i fod yn oedolion yn hanfodol os ydym am roi cyfle cyfartal mewn bywyd i’n plant mwyaf agored i niwed.”
Mae Adoption UK yn nodi cynllun chwe phwynt i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc wedi’u mabwysiadu. Mae’n cynnwys asesiadau amlddisgyblaethol a chynlluniau cymorth ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i leoli i’w fabwysiadu ac ymestyn gwasanaethau mabwysiadu i 26 mlwydd oed o leiaf.
Adoption Barometer 2021 – case studies FINAL
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle