Tîm ymchwil iechyd yn croesawu rhodd hael er cof am Lynne Drummond

0
436
Drummond donation

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddiolch i deulu Drummond am eu rhodd o £5,100 i’r Adran Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Tywysog Philip. Codwyd yr arian er cof am y diweddar Mrs Lynne Drummond.

Yn anffodus collodd Lynne, 73 mlwydd oed, a oedd yn nyrs am dri degawd, ei bywyd i COVID-19 yn Ysbyty Tywysog Philip, bum niwrnod yn unig cyn iddi dderbyn ei brechiad cyntaf.

Lynne Drummond

Mae’r cyfraniad hwn er cof amdani, wedi ei roi i gronfa ymchwil COVID-19 sydd wedi’i lleoli yn ysbyty Llanelli, dan arweiniad yr Athro Keir Lewis.

“Roedd fy mam-gu yn fenyw arbennig. Yr unigolyn mwyaf anhunanol, llawn bywyd a chariadus i mi erioed ei gyfarfod. Ar hyn o bryd rwy’n astudio i ddod yn nyrs, a hi oedd fy mhrif ysbrydoliaeth. Hi oedd ac yn dal i fod y glud sy’n dal ein teulu ynghyd. Mae cymaint o bobl yn ei cholli ac yn ei charu cymaint,”meddai ei hwyres, Abbie Drummond.

Cwblhaodd Lynne ei hyfforddiant nyrsio yn Ysbyty Treforys a daeth yn nyrs gofrestredig ym 1969. Yna symudodd i hen Ysbyty Cyffredinol Llanelli lle treuliodd yr 14 mlynedd nesaf. Yn dilyn hyn, datblygodd Lynne o fod yn Brif Nyrs i fod yn Uwch Reolwr Nyrsio yr Uned Endosgopi a Gofal Dydd newydd yn Ysbyty Tywysog Philip.

Ar ôl iddi ymddeol ym 1998 fe’i penodwyd yn aelod o’r Cyngor Iechyd Cymunedol i Awdurdod Iechyd Sir Gaerfyrddin yn 2000 gan Ysgrifennydd Iechyd Cymru ar y pryd Jane Hutt. Yna cafodd ei hethol yn ddirprwy gadeirydd tan 2006.

Drummond donation

“Pan oedd fy mam-gu yn yr ysbyty, daeth yr Athro Keir Lewis ati i ofyn iddi roi gwaed i’w ymchwil i COVID-19, roedd hi’n fwy na pharod i gyfrannu. Pan fu farw yn anffodus ym mis Ionawr, fel teulu roeddem yn gwybod bod angen i ni roi yn ôl i’r gofal arbennig a gafodd.”

Bydd yr arian a roddwyd yn cyfrannu at fapio data clinigol ar draws nifer o brosiectau ymchwil COVID-19. Un o’r rhain yw prosiect Biobank, y rhoddodd Lynne ei hun samplau tuag ato. Nod y prosiect hwn yw archwilio pam mae systemau imiwnedd rhai pobl yn ymddwyn mor wahanol i eraill i’r feirws. At hynny, bydd ymchwil i brofion cyflymach a chyffuriau hefyd yn elwa o’r rhodd.

Dywedodd yr Athro Keir Lewis, sy’n arweinydd anadlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac a oedd yn ymgynghorydd Lynne ar ôl ei derbyn: “Pan ddaeth Lynne i mewn, roedd yn gefnogol iawn i’r gwasanaeth. Fel cyn-nyrs roedd hi’n deall pwysigrwydd ymchwil glinigol. Arhosodd yn bositif ac yn ddewr drwyddi draw ac roedd bob amser yn barod i helpu.

Mae’r arian a godwyd gan ei theulu wedi cael effaith fawr wrth ein galluogi i wella a chyflymu’r prosiectau clinigol yn yr Adran Ymchwil a Datblygu. ”

Mae Lynne yn gadael ar ôl ei gŵr o 50 mlynedd, Jim, ynghyd â thri mab Andrew, Robert ac Ian a’i phump o wyrion Hannah, Abbie, Rhiannon, Holly a Rhys.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Abbie a Jim Drummond, a ddaeth i ymweld â’n huned i weld y canolfannau ymchwil, er gwaethaf eu colled, ac i’r teulu cyfan am eu hymdrechion. Mae eu dewrder a’u cyfeillgarwch wedi mynd yn bell iawn.” ychwanegodd yr Athro Lewis.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle