Diweddariad ar llacio cyfyngiadau ymweld ag ysbytai

0
1617
Prince Philip Hospital

Gall teulu, ffrindiau ac anwyliaid fynychu ein hysbytai i ymweld â chleifion ar sail gyfyngedig gyda chytundeb ymlaen llaw â staff ysbytai yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Er bod cyfraddau Covid-19 yn parhau i fod yn isel iawn ymhlith cleifion mewnol ein hysbytai, nid yw’r feirws wedi diflannu yn gyfan gwbl, ac fel rhai ardaloedd eraill ledled Cymru ac yn wir y DU rydym yn delio ag achosion o’r amrywiad Delta yn ein cymunedau.

Mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn llacio cyfyngiadau ymweld ag ysbytai yn raddol, ond rhaid trefnu pob ymweliad ymlaen llaw i’n galluogi i gynnal pellter cymdeithasol yn ein wardiau ac ar draws ein safleoedd.

Mae hyn yn golygu na ellir cefnogi ymweliad a drefnwyd ymlaen llaw gan ddim mwy na dau aelod o’r un cartref, ar yr amod bod pwrpas clir i’ch ymweliad a’i fod er budd gorau’r claf.

Gellir trefnu ymweliad yn dilyn trafodaeth rhwng y claf a Prif Nyrs y Ward, a bydd yr ymweliad yn unol â’r canllawiau canlynol gan Lywodraeth Cymru:

Ymweld â phwrpas:

• Diwedd oes – dyddiau olaf bywyd

• Gofalwr – chi yw’r gofalwr neu’r cynrychiolydd enwebedig

• Anableddau dysgu (LD) – efallai y bydd claf ag anableddau dysgu eich angen chi fel eu gofalwr / perthynas agosaf i rannu gwybodaeth am eu hanghenion unigol ac efallai na fydd ymweliad rhithwir yn briodol.

• Arall – er enghraifft lle teimlir y gallai ymweliad gennych helpu’r claf gydag adsefydlu, deall gofal / cyflwr, helpu gyda phryderon deietegol. Gall Prif Nyrs y Ward gytuno i ymweld y tu allan i’r canllaw hwn mewn rhai amgylchiadau.

Nodwch y gofynnir i ymwelwyr nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hyn ddefnyddio opsiwn ymweld rhithwir, megis defnyddio llechen neu ffôn symudol. Bydd Swyddogion Cyswllt Teulu ar gael ar wardiau i gefnogi mynediad rhithwir.

Gofynnwn yn garedig i bob ymwelydd gadw at y cyfyngiadau canlynol:

• RHAID i bawb sy’n ymweld neu’n mynychu apwyntiad gyda claf drefnu ymlaen llaw gyda’r Prif Nyrs.

• Bydd aelod o staff yn cysylltu â’r ymwelydd a ddyrannwyd ac yn cytuno ar slot amser i’r ymwelydd fynychu’r ward. Bydd un ymwelydd dyddiol yn ystod y slot amser penodedig i sicrhau y cedwir at reolau pellter cymdeithasol ac i gynnal diogelwch cleifion a staff.

• Caniateir i’r ymwelydd aros gyda’r claf am gyfnod cytunedig i sicrhau bod pob claf sy’n dymuno derbyn ymweliad yn cael cyfle. Bydd hyn yn seiliedig ar yr amgylchiadau unigol ac amgylchedd y ward i sicrhau bod yr holl fesurau atal heintiau angenrheidiol ar waith. Oherwydd gweithgareddau amrywiol yn amgylcheddau’r ward, gall slotiau amser amrywio. Pe bai angen trefniadau ymweld amgen, rhaid trafod hyn gyda’r Brif Nyrs.

• Rhaid i ymwelwyr wisgo PPE priodol (gorchuddion wyneb llawfeddygol). Nid yw plant yn cael eu hannog i ymweld a dim ond mewn amgylchiadau arbennig y dylent wneud hynny.

• Rhaid i’r ymwelydd a ddyrannwyd aros fel yr unig ymwelydd yn ystod y cyfnod derbyn. Gofynnir i ymwelwyr aros o fewn ardal wely’r claf trwy gydol yr arhosiad. Mae cyfleusterau toiled ymwelwyr ar gael a gall staff gyfarwyddo pobl yn ôl yr angen.

• Mae bwytai ysbyty yn parhau i fod ar gau i ymwelwyr, ond mewn amgylchiadau eithriadol gellir gwneud trefniadau trwy’r Brif Nyrs i brynu prydau bwyd parod.

• Nid yw cynorthwywyr cymorth hanfodol (fel dehonglwyr neu ofalwyr hanfodol) yn cael eu cyfrif fel ymwelwyr. Trafodwch hyn gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd iechyd rwyf am ddiolch eto i’n cymunedau, ein cleifion a’u teuluoedd am eich dealltwriaeth a’ch ymlyniad i reolau ymweld caeth y bu’n rhaid i ni eu gosod trwy gydol y pandemig hwn. Mae eich diwydrwydd a’ch ymwybyddiaeth o’r angen i gadw anwyliaid yn ddiogel yn yr ysbyty wedi bod yn allweddol yn ein hymdrechion i ymladd y feirws.

“Rydym yn gwybod bod ymwelwyr yn hanfodol i lesiant ein cleifion, a lle bynnag y gallwn, byddwn yn eich cefnogi i fod gyda’ch anwyliaid. Rydym wedi ymrwymo i osgoi lledaeniad y feirws yn ein hysbytai a chadw ein cleifion, teulu, gofalwyr a staff mor ddiogel â phosibl.

“Mae hyn yn golygu bod angen i ni am y tro sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ofalus, ac rwyf am bwysleisio nad yw hwn yn ddychweliad llawn i normalrwydd. Rydym yn deall y gallai rhai ymwelwyr deimlo’n siomedig os na allwch ymweld yn bersonol, ond rwyf am eich sicrhau bod y mesurau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn ddiogel, yn gymesur ac yn gyfrifol ac edrychwn ymlaen at leddfu cyfyngiadau pellach yn raddol wrth i amgylchiadau ganiatáu.”

Gall cleifion, lle bo hynny’n bosibl, ddefnyddio’u ffonau eu hunain i gyfathrebu â theulu a ffrindiau. Gellir cefnogi’r rhai sydd angen cymorth i gyfathrebu trwy Facetime neu lwyfannau cymdeithasol eraill a gefnogir.

Nid yw’r bwrdd iechyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymwelwyr gael eu profi am COVID-19 cyn ymweliad ysbyty wedi’i drefnu ac ni all hwyluso profi ymwelwyr ar y safle. Fodd bynnag, efallai yr hoffai ymwelwyr gynnal prawf llif gartref cyn iddynt ymweld ag anwyliaid a gellir cyrchu citiau profi trwy borth y DU a’u postio i’ch cyfeiriad cartref neu gellir eu casglu o’n safleoedd ‘casglu profion’ (rhwng 9.30am a 12.30pm, ac eithrio Maes Sioe Caerfyrddin sydd rhwng 8.00am ac 1.00pm).

Peidiwch ag ymweld ag unrhyw un o’n safleoedd ysbytai os gofynnodd y tîm olrhain cyswllt i chi ynysu neu os oes gennych unrhyw un o dri prif symptom COVID-19 – peswch parhaus, tymheredd neu golled neu newid blas neu arogl . Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau hyn, archebwch brawf PCR COVID-19 trwy borth y DU neu trwy ffonio 119. Dylech hefyd archebu prawf os oes gennych symptomau annwyd neu ffliw ysgafn, gan gynnwys trwyn yn rhedeg neu wedi blocio, dolur gwddf, poen yn y cyhyrau, blinder gormodol; cur pen parhaus, tisian parhaus a / neu grygni, prinder anadl neu wichian.

Wrth archebu’ch prawf PCR, gofynnir i chi hefyd am eich symptomau: os oes gennych symptomau annwyd ysgafn neu debyg i’r ffliw, yn hytrach na’r tri symptom clasurol, dewiswch ‘Dim un o’r symptomau hyn’ ac yna dewiswch un o’r opsiynau canlynol i alluogi chi i gwblhau’r archeb:

• Mae fy nghyngor lleol neu dîm amddiffyn iechyd wedi gofyn imi gael prawf, er nad oes gen i symptomau neu

• Mae meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi gofyn imi gael prawf.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle