Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i “ddal i fyny” ar argyfwng natur Delyth Jewell AS yn arwain galwad am dargedau adfer natur sy’n gyfreithiol rwymol

0
301
Delyth Jewell AM

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i dargedau bioamrywiaeth sy’n gyfreithiol rwymol cyn ei bod yn rhy hwyr, meddai Plaid Cymru.

 Mewn dadl yn y Senedd sydd i’w chynnal heddiw (dydd Mercher 30 Mehefin), bydd Plaid Cymru hefyd yn galw ar y Senedd i gydnabod yr argyfwng yn ffurfiol drwy ddatgan Argyfwng Natur. 

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros fynd i’r afael â Newid Hinsawdd, Delyth Jewell AS, mai’r bygythiad i fioamrywiaeth oedd un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu Cymru a’i bod yn amser i gymryd camau i fynd i’r afael â dirywiad parhaus bioamrywiaeth. 

Gyda’r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ôl 2020 i’w osod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol ym mis Hydref eleni, mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i gyflwyno targedau adfer natur. 

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, Delyth Jewell AS, 

“Mae’r argyfwng natur yn bodoli ochr yn ochr â’r argyfwng hinsawdd, ac oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hyn gyda’n gilydd, ni fyddwn yn eu goresgyn. Ond er bod gennym dargedau ar gyfer allyriadau carbon, nid oes mecanwaith cyfatebol ar gyfer natur: Dim targedau i olrhain sut y byddwn yn cyfyngu ar golli bioamrywiaeth ac yn ei wrthdroi. 

“Drwy fuddsoddi mewn natur, gallwn roi hwb i’n heconomi a chreu miloedd o swyddi. Os ydym wir am sicrhau Adferiad Gwyrdd yma yng Nghymru, mae angen inni fuddsoddi mewn adfer ein cynefinoedd a’n rhywogaethau, a chreu’r gweithlu gwyrdd sy’n gallu cyflawni ein targedau adfer natur.

“Cymerodd gynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru dros Gymru i ddatgan argyfwng hinsawdd – rwyf bellach yn annog Llywodraeth Cymru i ddal i fyny â’r bygythiad i’n bioamrywiaeth sy’n dirywio’n barhaus, gweithredu ar unwaith i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, ac i sicrhau adferiad natur drwy gyflwyno targedau adfer natur sy’n gyfreithiol rwymol cyn ei bod yn rhy hwyr.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle