Mae cadw mewn cysylltiad ag aelodau o’r teulu neu ffrindiau yn yr ysbyty yn bwysig, yn enwedig yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.
Mae Tîm Cymorth Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu i gynnal y cyswllt rhwng cleifion a’r teulu mewn nifer o ffyrdd, megis rhannu negeseuon ag anwyliaid, gollwng eiddo personol ac anrhegion neu ymweld o bell.
Mae’r Bwrdd Iechyd bellach yn cynnig ffordd syml y gallwch anfon neges at aelod o’ch teulu neu ffrind yn yr ysbyty, trwy lenwi’r ffurflen ar-lein: http://ratenhs.uk/Iuqqmz. Mae’r ffurflen ar gael mewn ystod o ieithoedd. Fel arall gallwch e-bostio’ch neges, gyda rhai ffotograffau os dymunwch, at eich anwyliaid trwy ddefnyddio ein cyfeiriad e-bost pwrpasol – ThinkingOfYou.HDD@wales.nhs.uk neu ffonio’r tîm cymorth i gleifion am gymorth.
Unwaith y derbynnir eich neges, bydd yn cael ei hargraffu a’i danfon yn ddiogel i aelod o’r teulu neu ffrind yn yr ysbyty ar eich rhan.
Gall y Tîm Cymorth i Gleifion hefyd helpu perthnasau a / neu ofalwyr i drefnu gollwng a chasglu dillad ac eitemau personol hanfodol eraill.
Er bod cyfyngiadau ymweld wedi llacio yn ddiweddar yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru, mae pawb sy’n ymweld ar sail gyfyngedig iawn gyda chytundeb ymlaen llaw â staff ysbytai er mwyn amddiffyn ein cleifion a’n staff. Fodd bynnag, gellir trefnu galwad fideo lle bo hynny’n briodol gan ddefnyddio ystod o offer a meddalwedd, megis Skype.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, “Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi cleifion a pherthnasau i allu cadw mewn cysylltiad â’i gilydd ar yr adeg hon.
“Rydym yn cydnabod bod cleifion yn elwad yn fawr trwy fod mewn cysylltiad â’r bobl bwysig yn eu bywydau, felly rydym yn falch iawn o allu darparu’r gefnogaeth hon.”
Gellir cysylltu â’r tîm cymorth i gleifion 0300 0200 159 yn ystod yr oriau 8.00am – 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle