Adolygiad pwysig o astudiaethau yn awgrymu y gallai aspirin leihau perygl marwolaeth cleifion canser 20%

0
326

Cynhaliodd tîm o Brifysgol Caerdydd adolygiad a dadansoddiad o’r ymchwil ar aspirin a marwolaethau oherwydd canser

Mae adolygiad mawr o’r ymchwil sy’n bodoli eisoes yn awgrymu y gallai cleifion sy’n dioddef ystod eang o ganserau ac sy’n cymryd aspirin yn rhan o’u triniaeth fod 20% yn llai tebygol o farw.

Cynhaliodd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd adolygiad systematig o 118 o astudiaethau arsylwadol cyhoeddedig yn achos cleifion â 18 o ganserau gwahanol.

Cyfunon nhw’r canlyniadau a chanfod bod hyn yn gysylltiedig â gostyngiad o tua 20% yn nifer y  marwolaethau oherwydd canser o gyfanswm o tua 250,000 o gleifion â chanser a ddywedodd eu bod wedi cymryd aspirin.

Dywedodd yr adolygiad fod y corff o dystiolaeth sydd ar gael ynghylch ei effeithiolrwydd a’i ddiogelwch yn “cyfiawnhau’r defnydd ohono” fel triniaeth atodol mewn ystod eang o ganserau, ac y dylai cleifion gael gwybod am hyn.

Caiff eu hadolygiad ei gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn mynediad agored eCancermedicalscience.

Dyma a ddywedodd y prif awdur, yr Athro Peter Elwood, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn astudio effeithiau aspirin ers dros 50 mlynedd: “Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf i a fy nhîm ymchwil wedi cael ein synnu gan effaith aspirin ar y mecanweithiau biolegol sy’n berthnasol i ganser – ac mae’r rhain yr un fath mewn llawer o ganserau gwahanol yn ôl pob golwg.

“Felly, roedden i eisiau adolygu’r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael ynghylch defnyddio aspirin fel triniaeth ychwanegol ar gyfer ystod eang o ganserau.

“Yn gyffredinol, unrhyw adeg ar ôl cael diagnosis o ganser, daeth i’r amlwg i ni fod tua 20% yn fwy o’r cleifion a fyddai’n cymryd aspirin yn parhau’n fyw, o gymharu â’r cleifion hynny nad oedden nhw’n cymryd aspirin.”

Ystyriodd y tîm hefyd y peryglon yn sgîl cymryd aspirin ac ysgrifennon nhw at un o awduron pob un o’r papurau gan holi ynghylch pyliau o waedu yn y stumog neu achosion eraill o waedu.

Roedd nifer fach o gleifion wedi cael pwl o waedu, ond nid oedd tystiolaeth o unrhyw farwolaethau ychwanegol y gellir eu priodoli i achosion o waedu yn y cleifion yn sgîl cymryd aspirin, meddai’r adolygiad.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu nid yn unig bod aspirin yn helpu i leihau perygl marwolaeth, ond mae hefyd wedi dangos ei fod yn lleihau lledaeniad canser yn y corff – lledaeniad metestatig fel y’i gelwir,” meddai’r Athro Elwood.

“Erbyn hyn mae cryn gorff o dystiolaeth sy’n awgrymu gostyngiad sylweddol yn nifer y marwolaethau ymhlith cleifion â chanser sy’n cymryd aspirin – ac mae’n ymddangos nad yw’r budd hwnnw wedi ei gyfyngu i un neu ychydig o ganserau.

“Felly, mae’n ymddangos bod Aspirin yn haeddu ystyriaeth ddifrifol fel triniaeth gynorthwyol ar gyfer canser ac y dylai cleifion â chanser a’u gofalwyr gael gwybod am y dystiolaeth sydd ar gael.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid inni bwysleisio hefyd nad yw aspirin yn driniaeth amgen yn lle unrhyw driniaeth arall.”

Ym 1974, y tîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Elwood a’r Athro Archie Cochrane yn yr Uned sydd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghymru oedd y cyntaf i ddangos bod cymryd tabled aspirin bob dydd yn lleihau nifer y marwolaethau o glefyd y galon a strôc tua 24%.

Cafodd yr adroddiad lawer o sylw yn fyd-eang ym 1990 ac yn ôl y BMJ, hwn oedd un o’r 50 astudiaeth ymchwil bwysicaf a gyhoeddwyd ers 1945.

Dywedodd yr Athro Elwood fod ei astudiaeth wreiddiol wedi ysgogi cyfnod newydd o waith ymchwil ar aspirin. Adeg yr adroddiad byddai tua 100 o astudiaethau ymchwil glinigol ar aspirin yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn – ond bellach mae mwy na 1,000 bob blwyddyn. Dywedodd fod nifer o dreialon clinigol newydd wedi eu sefydlu i brofi defnyddio aspirin fel triniaeth mewn sawl canser a dylai canlyniadau’r rhain roi rhagor o dystiolaeth glir yn hynny o beth.

“Mae’n amlwg y byddai rhagor o ymchwil i aspirin a chanser o werth mawr, a dylid annog astudiaethau newydd, yn enwedig os ydyn nhw’n canolbwyntio ar rai o’r canserau llai cyffredin,” meddai’r Athro Elwood.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle