Elusennau Iechyd Hywel Dda ar beiriant ECG newydd ar gyfer yr Uned Arennol yn Ysbyty Withybush

0
316
Withybush renal unit ECG machine picture- Deputy Clinic Manager Steve Gauder

Diolch i roddion gan gymunedau lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu peiriant ECG ar gyfer yr Uned Arennol yn Ysbyty Llwynhelyg.

Bydd yr offer newydd yn helpu gyda diagnosis prydlon gan glinigwyr ac fe’i dewiswyd oherwydd ei fod yn gyflym ac yn rhoi darlleniadau cywir.

Dywedodd Ann Davies, Rheolwr y Clinig fod y peiriant ECG newydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion a staff.

“Mae gan rai o’n cleifion salwch acíwt ac mae cael y peiriant newydd hwn wedi gwneud gofal yn ddi-dor,” meddai Ann.

“Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod y pandemig pan ddaeth yn bwysig inni gael ein peiriant ECG ein hunain yn yr Uned Arennol.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn. ”

Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.hywelddahealthcharities.org.uk.

Gallwch godi arian neu roi yn: www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.

Yn y llun gyda’r peiriant ECG newydd yn Uned Arennol Llwynhelyg mae Dirprwy Reolwr y Clinig, Steve Gauder.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle