Canmol pobl ifanc am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig

0
346

Mae pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i gadw ein cymunedau lleol yn ddiogel trwy gydol y pandemig COVID-19.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn canmol ymdrechion ein cenhedlaeth iau sydd wedi dilyn y rheolau i gadw’n ddiogel, amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas ac, yn fwy diweddar, dod ymlaen i gael eu brechu.

Dywedodd Maria Battle, y Cadeirydd: “Rwyf wedi bod mor falch o weld sut mae pawb wedi tynnu at eu gilydd i helpu dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ein poblogaeth iau. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad, megis rhannu gwybodaeth a chyngor pwysig â phobl ifanc eraill. Roedd yn braf gweld faint ohonyn nhw a gefnogodd y Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig trwy weithio neu wirfoddoli yn y GIG yn enwedig yn ystod yr amseroedd tywyllach pan oedd pawb yn pryderu.”

Gyda nifer yr achosion COVID-19 bellach ar gynnydd ar draws y tair sir, rhagwelir y bydd llwyddiant y rhaglen frechu yn parhau i arwain at dderbyniadau is i’r ysbyty na’r hyn a welwyd y llynedd. Fodd bynnag, y neges allweddol i bobl iau (neu’r rhai nad ydynt wedi’u brechu) yw bod dal risg o ddal y feirws.

Os ydych chi rhwng 18 a 29 oed, fe’ch anogir i amddiffyn eich hun ac eraill trwy gael eich brechu ac, er mwyn diogelu’ch gallu i fwynhau bywyd o ddydd i ddydd, cymerwch ragofalon i osgoi lledaeniad pellach (e.e hylendid dwylo da, pellhau cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen).

I gael y newyddion diweddaraf am glinigau brechu ewch i https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/ neu dilynwch y Bwrdd Iechyd ar Facebook (@BwrddIechydHywelDda) a Twitter (@bihyweldda).

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 neu symptomau tebyg i annwyd neu ffliw, arhoswch adref ac archebwch brawf PCR trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu trwy ffonio 119.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle