Gwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2021

0
352

Disgyblion yn serennu mewn cystadleuaeth ddigidol newydd

Roedd Menter Ysgolion Dreftadaeth Gymreig wrth ei bodd o dderbyn geiriau o gefnogaeth gan Michael Sheen pan ymddangosodd yn rhan o’r seremoni wobrwyo rithiol ar ddydd Gwener 2 Gorffennaf.

Mae’n bleser gen i gefnogi gwaith Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ac i fod yn rhan o’r seremoni wobrwyo eleni i ddathlu llwyddiannau pobl ifainc yng Nghymru.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol a gynhaliwyd gan MYDG am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn darparu cyfleoedd i bobl ifainc o bob oedran a gallu ledled Cymru i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth / cynefin, a’r cyfraniad a wnaed iddo/iddi gan eu cymunedau hwy eu hunain.

Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan a’r rhai sydd wedi gweithio’n galed i wneud hyn yn bosibl

(Michael Sheen. Gorffennaf 2021)

Ar ddydd Gwener 2il Gorffennaf cynhaliwyd y seremoni wobrwyo rithiol gyntaf erioed yn hanes Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn annhebyg i unrhyw un arall gydag ysgolion yn gweithio o bell gyda’i dysgwyr am ran helaeth o’r amser ac yn brwydro yn erbyn yr anawsterau anorfod a ddaeth yn sgil hynny. Bu’n her sylweddol i MYDG hefyd gan fod y corff hwn eisiau sicrhau, er gwaethaf y sefyllfa ddifrifol yn y wlad, bod y syched am addysg a’r awydd i ymgyrraedd at orwelion newydd ym myd dysg heb eu diffodd, ond y gellid eu hwyluso trwy’r gystadleuaeth flynyddol a drefnir ganddi. Felly, gyda llawer o waith caled a chefnogaeth noddwyr hael a ffyddlon, dyfeisiwyd fformat digidol newydd ar gyfer y gystadleuaeth.

Doedd dim sicrwydd faint o geisiadau y byddem yn eu derbyn mewn hinsawdd o’r fath, ond roedd MYDG wrth ei bodd i dderbyn dros 30 ymgais, Cymraeg a Saesneg, ar draws y sector addysg. Gwnaeth athrawon a disgyblion ymdrech anhygoel i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan sicrhau safon uchel y ceisiadau, gyda rhai ohonynt yn cyflwyno enghreifftiau eithriadol o sut y gall treftadaeth fod yn ganolog i bedwar pwrpas y Cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd y prosiectau a gyflwynwyd yn rhychwantu ystod eang o bynciauaml-ddiwylliant, yr iaith Gymraeg, trefi/dinasoedd unigol yng Nghymru, Rhyfeloedd Byd, Chwaraeon, Diwydiant, Cymry enwog, adeiladau ac eglwysi lleol a hanes menywod yng Nghymru. Roedd brwdfrydedd ac ymwneud y disgyblion, a hwyluswyd gan ymroddiad ac egni’r athrawon, yn amlwg iawn yn ansawdd y gwaith a gyflwynwyd. Rhaid canmol pawb a gallant un ac oll fod yn falch o’u llwyddiannau.

Roedd un enillydd ym mhob sector addysgiadol yn derbyn tarian a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru (National Museum of Wales) a £1000 yn rhodd gan Sefydliadau Hodge/Moondance. Yn y Cyfnod Sylfaen enillwyd y wobr gan Ysgol Penboyr, Sir Gaerfyrddin am ei hastudiaeth o Drefach Felindre, gan ganolbwyntio ar fusnesau yn y gorffennol a’r presennol. Rhannwyd y wobr ar gyfer y cyfnod Cynradd/Iau rhwng Ysgol Bryn y Mȏr, Abertawe ac Ysgol Casmael, Sir Benfro gyda’u prosiectau ‘Daw eto Haul ar Frynyn cymharu amserau caled yr Ail Ryfel Byd â’r pandemig, a ‘Casmael yn Cofioyn edrych ar gyfraniad y pentref i’r Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith y rhyfel ar y fro. Enillydd tarian yr adran Addysg Arbennig a Darpariaeth Amgen oedd Ysgol Heol Goffa, Sir Gaerfyrddin a’u pwnc oeddBwydydd Traddodiadol Cymrulle bu disgyblion yn ymchwilio, yn gwneud ac yn blasu bwydydd gwahanol gydag afiaithMasterchef y dyfodol! Enillwyd tarian y sector Uwchradd gan Ysgol Bro Pedr, Ceredigion am y prosiect ‘I Mewn ac Allan o Gymru’ – prosiect uchelgeisiol a chyfoethog yn delio ag ymfudo ac allfudo.

At hyn dathlodd y Fenter enillydd cystadleuaeth hollbwysig EUSTORY. MYDG yw unig aelod y DG gydag Eustoryrhwydwaith anffurfiol o sefydliadau anllywodraetholsy’n cynnal cystadleuaeth hanes seiliedig ar ymchwil ar gyfer pobl ifainc mewn 28 gwlad ar draws Ewrop. Eleni mae’r gystadleuaeth wedi mabwysiadu fformat gwahanolgwahoddir myfyrwyr Blynyddoedd 12 ac 13 i gyflwyno prosiect unigol yn gysylltiedig â Threftadaeth Cymru yn seiliedig ar ymchwil, dadansoddi a gwerthuso. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol a chyfle i ymgeisio am gael cymryd rhan yn rhaglen weithgareddau flynyddol EUSTORY, a fydd eleni ar fformat digidol. Enillydd 2021 MYDG yw Molly Cook o Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr yr arweiniodd ei hymchwil i hanes adeilad hanesyddol segur, gyda grŵp o’i chyfoedion, at gyhoeddi dadansoddiad a gwerthusiad tra nodedig yn ‘The Historian’. Enillodd Molly Wobr Hanesydd Ifanc Hanes Lleol y Gymdeithas Hanesyddol am y gwaith hwn hefyd.

Dymuna Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y gystadleuaeth eleniyn noddwyr, swyddogion, beirniaid ac yn arbennig felly’r disgyblion a’r athrawon am gymryd rhan mewn cyfnod mor anodd.

Yn bwysicaf oll, diolch o galon i Michael Sheen am ein cefnogi yn y seremoni.

Gobeithio y bydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol fel y gall ein pobl ifainc ddarganfod a dysgu am eu treftadaeth, a’r modd y mae’n cyfoethogi ein bywydau. Mae Prif Weinidog Cymru y Gwir Anrh. Mark Drakeford, yn cefnogi gwaith y Fenter

Mae’n cyfrannu at yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd gan ein pobl ifainc o’u hanes a’u treftadaeth ac yn eu hannog i ymchwilio a dysgu mwy o’r gorffennol

Hoffai MYDG annog rhagor o ysgolion i gystadlu yn 2022 a gwahoddwn hwy i edrych ar ein Gwefan: www.whsi.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle