Gwasanaeth Parcio a Theithio Gwlad y Sgydau yn cael ei lansio’r Haf Hwn

0
241

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Sir Powys a gweithredwr cludiant lleol South Wales Transport ar hyn o bryd i weithredu gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer ymwelwyr â Gwlad y Sgydau ym Mhontneddfechan yr haf hwn.

Gan ddechrau ym Maes Parcio Lancaster Close yng Nglyn-nedd, bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc o ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf i ddydd Sul 5 Medi 2021.

Eleni bydd y gwasanaeth am ddim gyda’r bwriad o gasglu barn ymwelwyr am fodel cyflwyno’r dyfodol ar gyfer y gwasanaeth.

Caiff y gwasanaeth Parcio a Theithio Gwlad y Sgydau ei gynnal fel prosiect peilot gyda’r bwriad o ddangos a all y gwasanaeth gael effaith gadarnhaol ar y pwysau parcio enfawr gan fod ymwelwyr yn parcio ym Mhontneddfechan gerllaw, un o’r prif fannau cychwyn ar gyfer mynd am dro yng Ngwlad y Sgydau.

Bydd ymwelwyr yn gallu defnyddio’r gwasanaeth o Faes Parcio Lancaster Close a safleoedd bysus rhwng Glyn-nedd a Neuadd y Pentref ym Mhontneddfechan.

Y gobaith yw, yn ogystal â pharcio yn Lancaster Close, y bydd ymwelwyr yn treulio amser yn archwilio tref Glyn-nedd a’r siopau a chaffis annibynnol niferus sy’n gweithredu yn y dref.

Mae Gwlad y Sgydau’n gyrchfan twristiaid poblogaidd iawn lle ceir amrywiaeth o sgydau hyfryd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pentref bach Pontneddfechan wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer yr ymwelwyr, sy’n golygu nad yw’r gymuned leol yn gallu ymdopi â nifer y ceir sy’n ceisio parcio yn y pentref.

Meddai’r Cyng. Annette Wingraxe, Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, “Mae preswylwyr Pontneddfechan yn bryderus am yr effaith y mae nifer yr ymwelwyr yn ei chael o fewn eu pentref. Trwy weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus, rydym yn ceisio profi dulliau newydd, fel y gwasanaeth Parcio a Theithio, sy’n gallu helpu wrth leddfu’r pwysau ar breswylwyr Pontneddfechan a fydd yn ei dro yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng Nglyn-nedd.”

Ychwanegodd Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, “Mae’r gwasanaeth parcio a theithio peilot yn rhan o amrywiaeth o fesurau sy’n cael eu rhoi ar waith gennym ni a’n partneriaid i leddfu’r pwysau sylweddol gan ymwelwyr rydym yn ei brofi ar draws Gwlad y Sgydau. Rydym yn gofyn i ymwelwyr weithio gyda ni a bod yn ymwybodol o’r effaith maent yn ei chael ar ein cymunedau lleol.’

Bwriad y gwasanaeth Parcio a Theithio’n yw ychwanegu at y trefniadau parcio ar y stryd sydd eisoes yn bodoli ac annog ymwelwyr i barcio’n gyfrifol.

Gellir cael rhagor o fanylion am y gwasanaeth Parcio a Theithio yn www.visitnpt.co.uk/waterfallsparkandride?lang=cy-gb


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle