Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn galw ar y cyhoedd i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd

0
262
Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion yng nghanol tref Castell-nedd ddydd Gwener diwethaf (2 Gorffennaf).

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn galw ar y cyhoedd i roi gwybod i Heddlu De Cymru am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd.

Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ddull o weithredu ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a sefydliadau cefnogol eraill i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgaredd troseddol yng nghanol tref Castell-nedd.

Fel mae Matt Otteson, Arolygydd yr Heddlu Lleol, yn esbonio:Yn aml iawn ni yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd eisiau rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu sy’n credu eu bod yn ddioddefydd. Rydyn ni eisiau sicrhau bod pawb sy’n cysylltu â’r heddlu yn cael cymorth a chefnogaeth. Bydd natur yr alwad yn ein helpu i benderfynu beth yw’r ymateb mwyaf priodol.

Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion yng nghanol tref Castell-nedd ddydd Gwener diwethaf (2 Gorffennaf).

Ni fydd rhai galwadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol o reidrwydd yn golygu bod angen i’r heddlu alw heibio. Ar adegau, byddwn ni’n gallu cynnig cyngor dros y ffôn neu gyfeirio’r galwr ymlaen at un o’n hasiantaethau partner a fyddai mewn sefyllfa well i ymateb. Er enghraifft, petai rhywun yn cael trafferth gyda chymdogion oedd yn chwarae cerddoriaeth uchel yn gyson yn hwyr y nos, y Cyngor lleol fyddai yn y sefyllfa orau i ymchwilio i hynny.

Mae’r timau plismona lleol a’r swyddogion cymdogaeth yn gyfarwydd iawn â’r materion sy’n codi yn yr ardal. Rydyn ni’n gwybod bod adnabod materion sy’n dod i’r amlwg a allai gyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn caniatáu i ni gymryd camau i atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion yng nghanol tref Castell-nedd ddydd Gwener diwethaf (2 Gorffennaf).

Er mai’r heddlu yw’r pwynt cyswllt cyntaf o hyd ar gyfer unrhyw un sy’n rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid ni bob amser yw’r sefydliad gorau na mwyaf priodol i ymateb na chynnig cefnogaeth. Trwy Bartneriaeth Gymunedol Castell-nedd Port Talbot rydyn ni’n gweithio gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill, ac yn cydnabod nad yr heddlu’n unig sy’n gallu datrys llawer o faterion cymunedol, ond bod hynny yn nwylo ystod o sefydliadau sydd â sgiliau arbennig ac adnoddau.”

Gallwch chi roi gwybod i’r heddlu am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

Ar-lein: https://bit.ly/SWPReportOnline  

Cyfryngau Cymdeithasol: Anfonwch neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter

Ebost: SWP101@south-wales.police.uk

Ffôn: 101

Dywedodd y Cynghorydd Leanne Jones, Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd: Rydyn ni’n apelio ar y cyhoedd i roi gwybod i Heddlu De Cymru’n uniongyrchol am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel eu bod nhw’n gallu casglu tystiolaeth a chymryd camau yn erbyn y rhai hynny sy’n peri tramgwydd.

Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion yng nghanol tref Castell-nedd ddydd Gwener diwethaf (2 Gorffennaf).

“Mae angen gwirioneddol am gymorth ar rai o’r bobl sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghastell-nedd, ac rydyn ni’n gweithio gyda’r asiantaethau cymorth perthnasol i sicrhau eu bod yn cael yr help angenrheidiol.

Mae gan Ganol Tref Castell-nedd lawer i’w gynnig i ymwelwyr, trigolion a busnesau, ac mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn awyddus i sicrhau nad yw ymddygiad lleiafrif yn niweidio enw da’r dref.”

Dyma rai o’r camau diweddaraf mae’r Bartneriaeth wedi bod yn eu cymryd:

Operation Lilieum Mae lansio Operation Lileum gan Heddlu De Cymru ar 27 Mawrth 2021 wedi arwain at gynnydd yng ngweithgarwch yr heddlu a phatrolau, yn ogystal â phwerau ychwanegol i wasgaru pobl sy’n benderfynol o ymddwyn yn wrthgymdeithasol

Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes (BCRP) Mae aelodaeth y BCRP yn dal i dyfu, ac mae’n gynllun ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a busnesau canol y dref yng Nghastell-nedd a Phort Talbot i leihau gweithgarwch troseddol. Bydd busnesau sy’n ymuno â’r cynllun yn cael mynediad at fanteision fel system wyliadwriaeth radio i gyfathrebu â masnachwyr eraill ynghylch gweithgarwch troseddol, ac yn derbyn ffotograffau a gwybodaeth ddiweddar am droseddwyr lleol.

Safleoedd trwyddedig – Mae Swyddogion Trwyddedu’r Cyngor wedi ymgysylltu â busnesau yng nghanol tref Castell-nedd, i’w hatgoffa am eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i helpu i atal troseddu ac annhrefn, ac i sicrhau nad yw alcohol yn cael ei werthu i gwsmeriaid sydd wedi meddwi. Mae swyddogion hefyd wedi annog safleoedd i gyfyngu ar werthiant eitemau megis caniau unigol, gyda’r nod o atal yfed ar y stryd.

Aelodau o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion yng nghanol tref Castell-nedd ddydd Gwener diwethaf (2 Gorffennaf).

Gwasanaethau cefnogi Mae gwasanaethau fel WCADA (Canolfan Cymru ar gyfer Gweithredu ynghylch Dibyniaeth a Chyflyrau Caeth), Wallich, Platfform a Byddin yr Iachawdwriaeth yn parhau i estyn allan at y rhai sy’n brwydro yn erbyn cyflyrau caeth, neu sy’n wynebu cyfnodau anoddgan fynd â gwasanaethau’n uniongyrchol at bobl i’w helpu i ymgysylltu â chefnogaeth a gwneud gwell dewisiadau, yn ogystal â chynnig gwasanaethau triniaeth.

Gwasanaethau tai a digartrefedd mae gwasanaeth Opsiynau Tai y cyngor yn parhau i gwrdd yn rheolaidd â Heddlu De Cymru i drafod yr unigolion sy’n achosi’r pryder mwyaf a sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd a chymorth yn cael ei roi.

Ar ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru arweiniad i bob awdurdod lleol, gan ddatgan bod angen cynnig llety dros dro i unrhyw aelwyd/unigolyn oedd heb lety ar gael iddyn nhw. O ganlyniad, gwelodd y cyngor gynnydd sylweddol yn y galw am lety dros dro, oedd yn fwy na dyblu’r galw arferol, a bu’n rhaid iddo gael hyd i lety ychwanegol ar draws y fwrdeistref.

Mae dyletswydd ar y gwasanaeth Opsiynau Tai i gael hyd i gartref ar gyfer y rhai sydd â chysylltiad â’r fwrdeistref sirol yn unig, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a phrin, er enghraifft pan fydd person yn anniogel yn eu hawdurdod cartref.

Buddsoddi yng nghanol y dref mae gwaith yn parhau i symud ymlaen ar gynllun ailddatblygu newydd gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol y dref. Bydd y prosiect yn darparu parth hamdden, llesiant, siopa a dysgu sylweddol yng nghanol tref Castell-nedd, ac yn cynnwys pwll nofio, campfa, ystafelloedd iechyd, arwynebedd manwerthu a llyfrgell fodern.

CCTV – yn ddiweddar mae’r cyngor wedi cychwyn ar y broses dendro i gyfnewid y camerâu CCTV presennol am ateb digidol modern fydd yn gallu cynhyrchu delweddau gryn dipyn yn fwy clir. Mae mwy na 20 o gamerâu CCTV yn ardal Castell-nedd, ac maen nhw’n weithredol 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Swyddog Cymorth Canol y Dref Mae’r cyngor wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio Swyddog Cymorth Canol y Dref, y bydd ei rôl yn cynnwys denu mwy o bobl i ganol y dref a hybu siopa lleol.

Digwyddiadau Ymgysylltu Mae Tîm Diogelwch Cymunedol y cyngor wedi ailgychwyn digwyddiadau ymgysylltu yn y gymuned, yn dilyn newidiadau i gyfyngiadau COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys canol tref Castell-nedd, ac yn gyfle i fusnesau a thrigolion siarad â’r tîm, a sicrhau dealltwriaeth well o’r materion sy’n bwysig iddyn nhw a beth sy’n destun pryder. Wedyn gall Diogelwch Cymunedol weithio gyda phartneriaid i roi sylw i’r materion hynny.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle