“Helpwch ni i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld”

0
530
Jane Hutt profile photo Nov 2019 scaled
Jane Hutt profile photo Nov 2019 scaled

Gyda dyddiad cau’r ymgynghoriad ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru yn agosáu ddydd Iau 15 Gorffennaf, mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi cyhoeddi apêl i sefydliadau ac unigolion ledled Cymru i sicrhau eu bod yn helpu i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.

Dywedodd y Gweinidog:

 Fel Llywodraeth, credwn o ddifrif nad yw mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yn ymwneud â geiriau’n unig, mae’n ymwneud â’n gweithredoedd hefyd. Dim ond drwy wrando a gweithredu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol

Mae’n bwysig i ni i gyd stopio a gofyn i ni’n hunain pa gamau ydyn ni wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig? Mae hwn yn brawf, i bob un ohonom, ddangos sut y byddwn i gyd yn gweithio tuag at ddileu hiliaeth yn ein cymdeithas, gyda’n gilydd.

Dyna pam yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynhyrchu nifer o ddarnau pwysig o waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol hirdymor ac yn bwysicaf oll, darparu cymdeithas decach a mwy cyfartal.

Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft, a ddatblygwyd ar y cyd, yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth ac mae’n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn cyfrannu ato cyn diwedd y cyfnod ymgynghori.

Gwyddom mai dim ond dechrau proses hir yw hyn, a bod arnom angen cymorth ein cymunedau i greu’r Gymru wrth-hiliol yr ydym i gyd am fyw ynddi, a ffynnu ynddi. Os cawn hyn yn iawn, byddwn yn creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a’r cyfraniad a wnânt.

 Pan fydd hynny’n digwydd, rydyn ni i gyd yn ennill.”

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dywedodd yr Athro Emmanuel Ogbonna, Cyd-Gadeirydd Grŵp Llywio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol:

“Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn nodi gweledigaeth a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol, gyda ‘nodau’, ‘camau gweithredu’ ‘amserlenni’, a ‘chanlyniadau’ diriaethol a fydd yn ein helpu i symud o’r ‘rhethreg’ ar gydraddoldeb hiliol a sicrhau ein bod yn cyflawni camau ystyrlon. Rydym am i holl gymdeithas Cymru ymgysylltu â’r Cynllun a helpu i gyflawni, ymhlith pethau eraill, marchnad gyflogaeth deg, system addysg a hyfforddiant decach a chyfartalu cyfleoedd a chanlyniadau hiliol mewn gofal iechyd.

 Credwn y bydd gweithredu’r cynllun hwn yn llwyddiannus o fudd gwirioneddol i bawb, ledled Cymru. Ond mae angen eich lleisiau, eich profiadau a’ch gwybodaeth chi arnom i’n helpu i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol yr ydym i gyd am ei gweld.”

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae’n hanfodol bwysig bod pawb ar draws ein cymdeithas yn ymgysylltu â’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Dyma ein cyfle i lunio’r Gymru yr ydym am ei chael yn y dyfodol: gwlad decach a theg sy’n cyflawni i bawb – ac yn bwysicaf oll i bobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion yn rhy aml.

Gwyddom i gyd fod arnom angen ymrwymiad ac uchelgais gwirioneddol er mwyn mynd i’r afael â phla hiliaeth. Bydd y Cynllun hwn yn ein galluogi i bennu’r nodau a’r camau gweithredu angenrheidiol, a bydd mynd i’r afael ag arferion gormesol a gwahaniaethol yn y gweithle yn rhan allweddol o hyn. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’i dwyn i gyfrif wrth i ni frwydro dros Gymru wirioneddol wrth-hiliol.”

Wrth gloi, dywedodd y Gweinidog:

“Mae dileu hiliaeth a hyrwyddo canlyniadau cyfartal wedi bod yn brif flaenoriaeth i  Lywodraeth Cymru erioed ac mae ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at gyd-greu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

 Felly ymunwch â ni, cymerwch ran a helpwch ni i greu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydyn ni i gyd eisiau ei gweld.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here