Prynodd Elusennau Iechyd Hywel Dda ar fonitor y galon ar gyfer yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Glangwili

0
245
Sonicaid MLU Glangwili - Sister Sarah Bradle

Diolch i ymdrech godi arian gan un o’r bydwragedd cymunedol, Sharon Jones mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu darparu monitor cyfradd curiad y galon â llaw ar gyfer darpar famau yn Ysbyty Glangwili.

Cododd Sharon bron i £1,000 trwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ac roedd am i rywfaint o’r arian gael ei ddefnyddio i brynu Sonicaid gwrth-ddŵr ar gyfer yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd yng Nghaerfyrddin, i helpu gyda genedigaethau dŵr cartref.

Dywedodd Sarah Bradley, Prif Nyrs yr Uned (yn y llun): “Mae hwn yn ddarn gwych o offer ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sharon am ei ymdrech godi arian i alluogi ein huned i gael un.

Mae’r Sonicaid yn cael ei ddefnyddio bob dydd yn yr uned yn ystod y cyfnod esgor ac ar gyfer gwiriadau cyn-geni ond, hefyd, oherwydd y gellir ei ddefnyddio mewn dŵr, mae o fudd enfawr yn ystod genedigaethau dŵr cartref i wrando ar gyfradd curiad y galon y babi.”

Hoffem ddiolch yn fawr i Sharon am ei ymdrech ac am redeg Hanner Marathon Caerdydd

Os hoffech chi helpu eich unedau mamolaeth GIG lleol, gallwch roi neu godi arian yn www.justgiving.com/hywelddahealthcharities.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle