Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian Scott Maynard

0
277
Scott Maynard

Mae’r hyfforddwr ffitrwydd a chyn-chwaraewr rygbi, Scott Maynard yn trefnu her redeg 24 awr i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.

Bydd dwsinau o aelodau o gampfa Scott, SM9 Fitness, sydd ym Mheniel, ger Caerfyrddin, yn ymuno ag ef ar gyfer y digwyddiad codi arian, a gynhelir ddydd Gwener 16 Gorffennaf a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

Scott Maynard

Gan ddechrau am 9am ar y dydd Gwener, bydd aelodau’r gampfa yn rhedeg mewn cylch milltir o hyd o amgylch Peniel, o ddrws y gampfa ac yn ôl. Bydd o leiaf un aelod wrthi’n rhedeg yn ystod y 24 awr gyfan, nes y diwedd am 9am ar y bore Sadwrn.

Dywedodd Scott, 28: “Byddwn yn rhedeg i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod.

Bydd rhwng 30 a 50 o aelodau’r gampfa, yn amrywio mewn oedran o bobl ifanc yn eu harddegau i bobl yn eu chwedegau, yn cymryd rhan yn yr her, a hynny mewn slotiau rhedeg 20 munud ar eu cyflymder eu hunain.

Scott Maynard

“Mae codi arian ar gyfer elusennau lleol yn bwysig i’r gymuned, yn enwedig ar ôl y 12 mis diwethaf.

Yn ddiweddar, cafodd ffrind agos fabi, a oedd wedi cael gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod. Mae’r gampfa hefyd yn cynnal dosbarthiadau BabiFfit ar gyfer mamau newydd, ac maen nhw’n deall pwysigrwydd y gwasanaeth a ddarperir gan yr uned yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Nicola Llewelyn, pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr hoffai’r elusen ddiolch i Scott ac aelodau ei gampfa am eu cefnogaeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn,” meddai Nicola. Os hoffech gyfrannu at ymgyrch codi arian Scott, ewch i Scott Maynard is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com).


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle