Ramblers Cymru yn lansio prosiect newydd i wella mynediad a rhoi hwb i’r amgylchedd naturiol

0
324

Nod prosiect dwy flynedd newydd Gymru gyfan ‘Llwybrau i Lesiant’ yw gweithio gyda chymunedau i wella mynediad i’w llwybrau lleol i fwynhau’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a gwelliannau amgylcheddol, gobeithiwn roi cerdded wrth galon cymunedau.

Mae llawer o bobl wedi profi manteision cerdded yn lleol yn ystod y pandemig hwn gan eu helpu i barhau’n gorfforol egnïol a chysylltu â natur, pob peth y dangoswyd ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol.

Fodd bynnag, mae llawer o’r llwybrau a’r arwyddion presennol mewn cyflwr gwael ac mae angen eu cynnal a’u cadw gyda gwaith brys yn hanfodol er mwyn cynnal ein mynediad at natur. Mae Ramblers Cymru yn credu mai gweithio gyda chymunedau i’w helpu i gymryd perchnogaeth o’u rhwydweithiau llwybrau lleol yw’r ffordd ymlaen a bydd y prosiect Llwybrau i Lesiant yn defnyddio’r dull hwn.

Er mwyn cyflawni’r prosiect gwerth £1.3m a datblygu’r gweithgareddau gwirfoddoli bydd Ramblers Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â 22 o awdurdodau lleol, Coed Cadw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru ac eraill gyda 13 aelod newydd o staff wedi’u lleoli ledled y wlad.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Lywodraeth Cymru Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: “Rydym yn gwybod bod angen cymorth ychwanegol ar awdurdodau lleol i wella mynediad ar adeg mor heriol.

“Yr ateb hirdymor yw buddsoddi mewn uwchsgilio, arfogi, cefnogi ac arwain gwirfoddolwyr lleol i reoli a chynnal a chadw a gwella llwybrau a chynefinoedd ymarferol, bydd ymgysylltiad cymunedol â llwybrau a mannau gwyrdd yn cael ei gryfhau, gan gysylltu pobl â manteision iechyd a lles natur a gweithgarwch corfforol awyr agored.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle