Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth enwi trên Trafnidiaeth Cymru

0
463
Pictured: BBC star Grace Webb stands in front of one of the new Transport for Wales Class 197 trains at the CAF factory in Llanwern, near Newport.

Transport For Wales

‘Llyn Barfog’, ‘Deva Victrix’ a ‘Ruabon Ruby Rooster’ – dyma rai o’r enwau buddugol a gynigiwyd gan blant ledled Cymru a’r gororau ar gyfer trenau newydd Trafnidiaeth Cymru.

Mae pum panel beirniadu rhanbarthol wedi dewis y cynigion buddugol, a phrif enillydd rhanbarthol ar gyfer eu hardaloedd. Yn dilyn hynny, roedd panel beirniadu terfynol – a oedd yn cynnwys seren CBBC, athro a Grace Webb, cyflwynydd chwaraeon moduro – yn dewis prif enillwyr ar gyfer tri chategori creadigol: y gerdd orau, y stori fer orau a’r llun gorau.

Gyda’i gilydd, mae dros 110 o enillwyr o ysgolion o bob cwr o Gymru a’r gororau, a bydd yr enwau i’w gweld ar y trenau newydd a fydd yn dechrau cael eu defnyddio y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chael enwi un o drenau newydd sbon TrC, bydd pob enillydd yn cael pecyn creadigol arbennig gan TrC, a bydd enillwyr y categorïau creadigol a rhanbarthol yn cael model Hornby unigryw o’u trên.

Dywedodd Grace Webb, sy’n cyflwyno ‘Grace’s Amazing Machines’ ar Cbeebies: “Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o blant yn cymryd rhan, ac maen nhw wedi bod yn greadigol dros ben.

“Roedd dewis y prif enillydd yn benderfyniad anodd iawn gan fod y safon mor uchel, a gall pob un ohonyn nhw fod yn falch iawn o’r gwaith maen nhw wedi’i wneud.

“Mae hi wedi bod yn bleser barnu’r gystadleuaeth, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y trenau newydd, gyda’u henwau gwych, yn teithio ar hyd y rhwydwaith.”

Roedd cystadleuaeth y Daith Drên Odidog hefyd yn darparu pecyn dysgu rhyngweithiol i athrawon ac ysgolion a oedd yn seiliedig ar bynciau fel cynaliadwyedd a thrafnidiaeth, trenau hen a newydd, straeon o bob cwr o Gymru a’r gororau, a llefydd i ymweld â nhw ar y trên.

Dywedodd Megan Roseblade, arweinydd prosiect Trafnidiaeth Cymru a chyn-athrawes: “Ar ran pawb yn Trafnidiaeth Cymru, hoffwn ddiolch i’r holl blant a roddodd o’u hamser i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan safon y cynigion.

“Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i enwi’r trenau newydd a fydd yn helpu i drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a chafwyd ymateb gwych i’r her.

“Roedden ni hefyd eisiau ysbrydoli’r plant i ddysgu mwy am drafnidiaeth, y newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a’u hanes lleol a chenedlaethol, ac rydyn ni’n falch iawn bod y gystadleuaeth wedi bod mor llwyddiannus.”

Mae rhestr lawn o’r holl enillwyr i’w gweld ar wefan Trafnidiaeth Cymru https://trc.cymru/cy/yddo-enillwyr


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle