Elusennau Iechyd Hywel Dda ar etifeddiaeth fawr a Chanolfan Gofal Integredig Aberaeron

0
282
Jan Walker, Rheolwr Safle Clinigol y bwrdd iechyd yng nghanolfannau gofal integredig Aberaeron ac Aberteifi yn yr ardal aros sy’n llawn gwaith celf lleol

Bron i ddwy flynedd ar ôl agor canolfan ofal flaenllaw gan y GIG yn Ngheredigion, mae cleifion a staff yn nodi buddion gwych y ganolfan, ac mae cymynrodd hael yn lleol yn rhannol i ddiolch am hyn.

Mae Canolfan Gofal Integredig Aberaeron wedi dod â gofal iechyd a chymdeithasol cydgysylltiedig i gymunedau lleol am y tro cyntaf.

Mae’n darparu popeth o wasanaethau clinigol i feddygfeydd ac mae’n gartref i dimau nyrsio ardal a gofal cymdeithasol, sefydliadau’r trydydd sector a thîm amlddisgyblaethol Porth Gofal.

Ariannwyd y prosiect gyda chefnogaeth dros £3m o arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

Ond yn sylfaenol i’r datblygiad ac yn allweddol i’r adnewyddiad oedd cymynrodd o fwy na £400,000 gan y gymwynaswraig leol Miss Bessie Anne Jenkins.

Dywedodd Jina Hawkes, Rheolwr Cyffredinol Gofal Cymunedol a Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y gall cefnogaeth rhoddion a chymynroddion elusennol wneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol i wasanaethau iechyd lleol.

Meddai Jina: “Mae cymynrodd lleol wedi bod yn sylfaenol i ddatblygiad Canolfan Gofal Integredig Aberaeron ac mae wedi ein galluogi i gadw gwasanaethau’n lleol, sef gweledigaeth y bwrdd iechyd. Fe wnaeth y cymynrodd ein galluogi i gynnig y gofal gorau posibyn nes at adref’.

Rydym yn hynod ddiolchgar o dderbyn cymynroddion, gan eu bod yn ein galluogi i ddarparu cyfleusterau sydd y tu hwnt i’r hyn sy’n bosib fel arfer trwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. I gleifion a theuluoedd, mae cymynroddion yn aml yn ffordd i ddweud diolch am y gofal y maent wedi’i gael.

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan ddefnyddwyr y ganolfan a’r staff. Mae’n llwyfan i ddarparu gofal integredig o dan yr un to. ”

Prif Nyrs Laura Jones, Nyrs Staff Liz Smart a Ffisiotherapydd Rhys Burton o flaen gwaith celf lleol yn ardal aros yr ystafelloedd therapi ac aml-bwrpas

Dywedodd Jan Walker, Rheolwr Safle Clinigol yng Nghanolfannau Gofal Integredig Aberaeron ac Aberteifi, fod y cymynrodd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r hyn y maent wedi gallu ei wneud yng nghanolfan Aberaeron.

“Mae cleifion yn gyson yn dweud ‘waw’ pan fyddant yn ymweld â’r ganolfan. Mae’r etifeddiaeth wedi ein galluogi i gael cyfleusterau’r 21ain ganrif, gan gynnwys llawer o dechnoleg ac offer nad oedd gennym gynt.

“Yma hefyd mae nifer o weithiau celf hyfryd o Aberaeron, gan gynnwys lluniau o’r harbwr a charnifal y dref.”

Ariannodd y cymynrodd y brif ardal aros yn y ganolfan ofal newydd, gan gynnwys man addas i blant a man parcio cadeiriau olwyn.

Yn ogystal, ariannodd ystafell ffisiotherapi i gefnogi datblygiad nifer o glinigau therapi grŵp, ystafell babanod ar gyfer bwydo ac ystafell gyfweld ar gyfer trafodaethau cyfrinachol â chleifion.

Hefyd darparwyd offer a dodrefn clinigol newydd, gan gynnwys cwrtiau archwilio cleifion, offthalmosgopau, offer bariatreg a chlociau sy’n gyfeillgar i ddementia.

Jan Walker, Rheolwr Safle Clinigol y bwrdd iechyd yng nghanolfannau gofal integredig Aberaeron ac Aberteifi yn yr ardal aros sy’n llawn gwaith celf lleol

Mae ystafell awdioleg a bwth arbenigol hefyd yn darparu cyfleusterau awdioleg oedolion a phediatreg yn Aberaeron.

Darparwyd hefyd ardal fariatreg gydag ystafell driniaeth a chyfleusterau en-suite.

Mae offer fideo-gynadledda a ddarperir yn cefnogi clinigau allgymorth, cysylltiadau â chlinigwyr sydd oddi ar y safle a chyfarfodydd grŵp.

Cyflenwyd setiau teledu ar gyfer yr ardaloedd aros i ddarparu gwybodaeth hybu iechyd i gleifion.

Hefyd, mae’r gwaith celf lleol hyfryd yn gwella’r amgylchedd i’r cleifion.

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn, fod yr elusen mor ddiolchgar am roddion a chymynroddion elusennol a i helpu’r Gwasanaeth Iechyd yn lleol.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd,” meddai Nicola.

I gael mwy o wybodaeth am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle