Mae busnes teuluol, a sefydlwyd yn Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn dathlu cyflawniadau ei staff benywaidd, ar ôl iddynt ymrwymo i gefnogi eu sgiliau arwain.
Cynhaliodd LBS Builders Merchants ddigwyddiad graddio ar gyfer y menywod sydd wedi ennill eu dyfarniadau y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), sy’n rhan o raglen datblygu gyrfa ehangach Chwarae Teg, yr elusen cydraddoldeb rhywedd.
Wedi’i sefydlu yn 1931, mae Prif Swyddfeydd LBS Builders Merchants yn Rhydaman ac mae wedi tyfu i fod y cyflenwr adeiladwyr annibynnol mwyaf blaenllaw yn Ne Cymru, gyda mwy na 30 o safleoedd ledled De Cymru a thîm o dros 400 o staff.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r busnes gofrestru staff ar raglen datblygu gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg, sy’n cael ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n fenter unigryw ac ysbrydoledig, sy’n helpu menywod sy’n gweithio i ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau ar gyfer rolau arwain tîm neu reoli.
Dywedodd Ray Laidlaw, Rheolwr Hyfforddiant, LBS Builders Merchants Ltd:
“Rwy’n hynod o falch o’n dysgwyr a sut maen nhw wedi cymhwyso’u hunain i’r rhaglen datblygu gyrfa. Maen nhw nid yn unig wedi ennill sgiliau arwain allweddol a werthfawrogir gennym ni fel cyflogwr, ond hefyd wedi datblygu eu hunanhyder.
Fel busnes ein nod yw darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, drwy ymrwymiad a gwybodaeth ein holl staff, ac mae gweithio gyda Chwarae Teg yn ein helpu i wneud hynny.
Er nad oes graddio ffurfiol eleni, rydym wedi creu ein cyflwyniad ein hunain i’n dysgwyr er mwyn dathlu eu cyflawniadau a rhoi’r gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu iddynt.”
Dywedodd Margaret Edwards, Uwch Bartner Cyflawni, Chwarae Teg,: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda staff LBS ac yn wych i’w gweld yn cael eu llongyfarch ar eu cyflawniadau. Fel busnes, mae LBS yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau bod staff benywaidd yn gallu ffynnu a dod yn arweinwyr yn y dyfodol.
“Mae gennym dîm ymroddedig yn Chwarae Teg sy’n darparu hyfforddiant, mentora a hyfforddiant arbenigol sydd wedi’i gynllunio er mwyn grymuso menywod i gyflawni eu huchelgeisiau.”
Os ydych yn gyflogwr, sydd hefyd â diddordeb mewn manteisio i’r eithaf ar botensial staff benywaidd, gallwch gael rhagor o wybodaeth https://chwaraeteg.com/prosiectau/cenedl-hyblyg2-rhaglen-menywod/. Croesewir ymholiadau hefyd drwy AN2@chwaraeteg.com neu 0300 365 0445.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle