Mae Gorsaf Radio Ysbyty Llanelli wedi derbyn Cymhorthdal Cymunedol y Loteri
Genedlaethol er mwyn ymgymryd uwchraddiadau hanfodol i’w wasanaeth.
Yn darlledu o Ysbyty Tywysog Philip ac yn rhedeg fel gorsaf radio ysbyty a
chymunedol sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, mae Radio BGM wedi derbyn bron
£9000. Byddir yn gwario’r grant yma ar wella rhyngweithiad yr orsaf gyda’r cleifion a’r
gymuned leol, darparu gwell profiad i’r gwrandawyr, caniatáu fwy o gyfleoedd recriwtio
gwirfoddolwyr a hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd a digwyddiadau lleol.
Dywed David Hurford, cadeirydd Radio BGM: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod
un o’r flynyddoedd fwyaf dadleuol yn hanes yr orsaf ond wrth ddod yn elusen gofrestredig,
a gyda chymorth Cyngor Dref Llanelli, Chyngor Gwledig Llanelli a busnesau lleol yn
ychwanegol a’r ymroddiad a blaengaredd gan ein tîm o wirfoddolwyr, rydym wedi llwyddo
i gadw’r orsaf i ddarlledu’n llwyddiannus ac yn ddiogel. Rydym wir yn orfoleddus i gael ein
dewis i dderbyn grant wrth y Loteri Genedlaethol, a wnaiff y grant yma wahaniaeth mawr
i’n gweithrediadau a chaniatáu i ni weithio’n fwy hyblyg wrth edrych i’r dyfodol. Byddwn
hefyd yn gallu cyflawni tipyn o waith cynnal a chadw i’n stiwdio, a pharhau i ddatblygu a
hyfforddi sêr radio’r dyfodol.”
Sefydlwyd Radio BGM yn 1973 fel ‘Gwasanaeth Darlledu Ysbyty Llanelli’ yn Ysbyty
Bryntyrion, ac mae’r orsaf wedi parhau i wasanaethu cleifion Ysbyty Tywysog Philip yn
Llanelli. Erbyn hyn mae technoleg gyfoes yn galluogi pobl yn y gymuned leol i wrando ar
eu ‘seinydd clyfar’, ar ein gwefan: www.radiobgm.org.uk a thrwy ap ‘Radio BGM’ sydd ar
gael ar ffonau Android ac iOS.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle