ENILLWYR CYSTADLEUAETH MENTER MOCH CYMRU A CFFI CYMRU YN DATHLU

0
381
Laura
Llun Dylan

Bydd chwech o aelodau ffermwyr Ifanc Cymru yn cychwyn magu moch mis Medi eleni wedi iddynt ennill Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a Cffi Cymru. Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â’r enillwyr ei wneud heddiw yn y CAFC Sioe Frenhinol Rithiol.

Y chwe unigolyn fydd yn derbyn pum porchell ddechrau Medi eleni fydd Dylan Phillips o Fwlch y Rhandir, Ceredigion, Eiry Williams o Langwyryfon, Ceredigion, Luned Jones o Lanwnnen, Elliw  Roberts o Ynys Môn, Sally Griffiths o Faesyfed a Laura Evans o Langwyryfon.

 

Llun Luned
Sally

Lansiwyd y gystadleuaeth ym mis Ebrill eleni i ddod o hyd I 6 ceidwad moch newydd brwdfrydig.  Roedd y broses yn cynnwys cais ysgrifenedig ac yna ymweliad rhithiwr a’r fferm ac asesiad. Yn ôl y beirniaid eleni roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn gyda phob un o’r cystadleuwyr yn frwd am gadw moch. Roedd pob un o’r ceisiadau wedi creu argraff ar y beirniaid.

Llun Elliw
llun Eiry

Fel gwobr yn ogystal â phum porchell bydd pob un cystadleuydd hefyd yn cael eu cefnogi gyda rhaglen hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau angenrheidiol i sefydlu’r a rheoli’r fenter newydd hon….


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle