MENTER MOCH CYMRU YN CYMERADWYO YMARFER RHITHIOL Y DEYRNAS UNEDIG I BROFI CYNLLUNIAU WRTH GEFN I DDELIO GYDA CHLWY AFFRICANAIDD Y MOCH

0
205
MMC Biosecurity sign on gate

Bydd ymarfer ledled y DU i efelychu toriad o Clwy Affricanaidd y Moch (ASF) yn digwydd heddiw (Dydd Iau’r 22ain o Orffennaf) I brofi’r cynlluniau sydd wrth gefn i ddal a dileu’r afiechyd pe bai’n cyrraedd y DU.

MMC Biosecurity sign on gate

Bydd yr ymarfer sydd yn dod dan yr enw “Exercise Holly” yn gweld Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Defra, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon yn gweithio gyda’i gilydd i brofi a datblygu cynllun wrth gefn y DU.

Mae’r ymarfer yn cymryd arwyddocâd ychwanegol yr wythnos hon gan fod y firws wedi’i ganfod mewn moch domestig yn yr Almaen am y tro cyntaf.

MMC Foot Dip Sign in Use

Mae ASF yn glefyd heintus iawn sydd yn effeithio ar foch ond nid oes unrhyw fygythiad i iechyd pobl. Mae’r afiechyd wedi cael effaith ddinistriol ar gynhyrchu moch yn Tsieina a’r Dwyrain Pell ac mae hefyd yn symud o ddwyrain Ewrop tuag at y gorllewin, mae bellach yn bresennol yng Ngwlad Belg. Mae’r afiechyd yn lledaenu o fochyn i fochyn ond gall moch hefyd gael eu heintio o gynhyrchion cig moch halogedig……


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle