Mae chwe aelod o dîm Nofio Cymru wedi ennill lle yn y Gemau Olympaidd eleni – record newydd
Fe allai pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru greu mwy o gyfleoedd i nofwyr yn yr ardal, mae Plaid Cymru yn dweud.
Bydd seremoni agoriadol gemau Olympaidd Tokyo yn cael ei chynnal heddiw, gan ddechrau cystadleuaeth sy’n cynnwys record o chwe nofiwr o Gymru.
Dathlodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS y llwyddiant, gan nodi bod gwylio athletwyr o Gymru yn “dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru” fel y dangoswyd gan Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA yn gynharach yr haf hwn.
Nododd Ms Fychan fod llwyddiant y gynrychiolaeth nofio o Gymru yn codi cwestiynau ynghylch y cyfleusterau sydd ar gael yng ngogledd Cymru, gan nodi bod llawer o’r pyllau maint Olympaidd agosaf dros y ffin.
Ychwanegodd Ms Fychan y byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn “osgoi sefyllfa o’r fath” a bod “nofwyr yn y gogledd yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial”.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Chwaraeon, Heledd Fychan AS,
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn gwylio llawer o athletwr o Gymru mewn amrywiaeth o chwaraeon yn cystadlu yn y gemau Olympaidd, gan gynnwys chwe nofiwr o Gymru, sy’n torri record.
“Ni ellir gwadu bod gwylio athletwyr sy’n ein cynrychioli ar lwyfan chwaraeon y byd yn denu cymaint ohonom i mewn, nid dim ond y dorf arferol, ac yn dod â ni at ein gilydd yn ein balchder dros Gymru. Mae’n rhywbeth rydyn ni eisoes wedi profi cymaint ohono yn ystod ymgyrch Pencampwriaeth Ewropeaidd UEFA eleni.
“Ond mae’r llwyddiant hwn yn erfyn ar y cwestiwn – faint o nofwyr talentog o ogledd Cymru allai fod wedi bod yn cymryd rhan yn y gemau hyn pe bai pwll maint Olympaidd yn y gogledd iddyn nhw hyfforddi ynddo? A allem fod yn edrych ar saith, wyth, naw neu fwy o nofwyr o Gymru ar y tîm?
“Fel y mae hi byddai’n rhaid i nofwyr yn y gogledd deithio i Fanceinion, Lerpwl, Abertawe neu Gaerdydd i hyfforddi, rhywbeth sy’n siŵr o’i gwneud hi’n anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i athletwr ifanc ddilyn camp maen nhw’n rhagori ynddynt.
“Byddai sefydlu pwll maint Olympaidd yng ngogledd Cymru yn osgoi sefyllfa o’r fath – mae nofwyr yn y gogledd yn haeddu mynediad i gyfleusterau hyfforddi, ac yn haeddu’r cyfle i gyflawni eu potensial.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle