Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian gan ddyn Ceredigion

0
284
Gareth Whalley

Llongyfarchiadau i Gareth Whalley, sy’n 26 oed, a gododd £1,446 i’n helusen trwy nenblymio, er bod uchder yn codi braw arno.

 

Gareth Whalley

Daw Gareth o Gomins Coch ger Aberystwyth, ac roedd am godi arian i Ysbyty Bronglais a’r Uned Famolaeth yn Ysbyty Glangwili i ddweud diolch yn fawr i staff y GIG sy’n gwneud gwaith anhygoel, meddai, yn ystod cyfnod tyngedfennol iawn.

Ar ôl iddo gwblhau’r nenblymio, dywedodd Gareth, sy’n gweithio yn Aberhonddu yn hyfforddwr awyr agored i’r Llynges Frenhinol, fod y profiad ynanhygoel‘ ac y byddai’n bendant yn ei wneud eto!

“Y foment fwyaf cofiadwy oedd y funud o ddisgyn yn rhydd; dyna oedd y teimlad gorau yn y byd.” yn ôl Gareth. “Roedd yn anhygoel.”

Gareth Whalley

Dywedodd Gareth ei fod yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd ei ddigwyddiad codi arian, gan gynnwys busnesau lleol a roddodd wobrau’r raffl.

Mae’n rhyddhad i mi fod y nenblymio wedi’i wneud, ac rwy’n gwybod y bydd defnydd da yn cael ei wneud o’r arian,” ychwanegodd Gareth, y mae ei gariad Manon yn feddyg iau a’i fam yn nyrs.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle