Fan brechu symudol COVID-19 i ymweld â Rhydaman

0
421
Mobile van at Seaside in Llanelli last week

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gadarnhau y bydd ei fan brechu symudol, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn Rhydaman rhwng dydd Mercher 28 a dydd Sadwrn 31 Gorffennaf.

Bydd y clinig brechu symudol wedi’i leoli ym maes parcio Tesco Rhydaman (Park Street, SA18 2LR) a bydd ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm. Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad.

Bydd y fan frechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn sy’n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna a AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Mae’r gwasanaeth tân yn darparu un o’i gerbydau ac aelodau’r tîm yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i’r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref.

Gyda’r cynnydd mewn achosion ledled y DU, mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn dod ymlaen am eu dos cyntaf a’r ail ddos cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu dod â’n fan brechu symudol i Rydaman am bedwar diwrnod.

“Mae dros 2,000 o frechlynnau wedi cael eu rhoi o’r fan hyd yma ac rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn Rhydaman a’r ardal gyfagos yn dewis cael eu brechlyn gyda ni yn ystod ein hamser ym maes parcio Tesco.

“Mae croeso i bawb, os ydych chi wedi newid eich meddwl ar ôl gwrthod brechlyn eisoes byddwn yn hapus i’ch gweld neu os hoffech siarad â rhywun cyn penderfynu a ddylid ei gael, bydd ein tîm brechu gwych yn fwy na pharod i siarad gyda chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies: “Rwy’n falch y gallwn, unwaith eto, gynorthwyo Hywel Dda gyda’u rhaglen frechu, ar ôl dod â phartneriaeth hynod lwyddiannus i ben yn ddiweddar lle roeddem yn gallu cynorthwyo gyda cludo pobl yn ein cymunedau i ac o ganolfannau brechu torfol.

“Mae’r cyfle a’r bartneriaeth hon yn caniatáu inni ehangu ein cymorth ymhellach o fewn y byd iechyd, ac mae’n mynd i gael effaith gadarnhaol ar ein hymateb i’r pandemig byd-eang hwn ac rydym yn falch o allu chwarae ein rhan a chydweithio â’n partneriaid y GIG i drawsnewid bywydau llawer o bobl.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle