Elusennau Iechyd Hywel Dda ar glustogau cysur i gleifion canser yn Sir Benfro.

0
312
comfort cushions cancer services Withybush

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu clustogau cysur siâp calon i gleifion canser yn Sir Benfro eu defnyddio ar ôl llawdriniaeth.

Diolch i rodd o £200 gan Care, Share and Give, Sir Benfro. Mae pedwar ar ddeg o glustogau wedi’u prynu ar gyfer tîm Gwasanaethau Canser y Fron yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae’r clustogau yn hyrwyddo cysur yn y cyfnod adfer ac mae cleifion yn dweud eu bod yn wirioneddol werthfawr.

Dywedodd Tessa Phillips, Nyrs Glinigol Gofal y Fron Macmillan, (yn y llun) fod y staff a’r cleifion yn ddiolchgar iawn am y rhodd, a oedd wedi galluogi i’r clustogau gael eu darparu.

“Mae cleifion yn dweud bod y clustogau yn gysur mawr ar ôl llawdriniaeth. Rydym yn falch o allu darparu’r gwasanaeth hwn y mae ein cleifion yn ei groesawu gymaint. “

Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.hywelddahealthcharities.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle