Ymddiriedolaeth y Parc Cenedlaethol yn dathlu digwyddiad cyntaf 2021

0
325

Yn ddiweddar cynhaliodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei digwyddiad cyntaf o’r flwyddyn yn yr Oriel yng Trefdraeth, Sir Benfro.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i lif cyson o ymwelwyr ddysgu mwy am waith yr Ymddiriedolaeth, ac roedd yn cyd-daro ag arddangosfa yn yr oriel gan yr artist tirluniau enwog o Sir Benfro, Gillian McDonald.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i gefnogi a hybu cadwraeth, cymunedau a diwylliant ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ers lansio’r elusen yn haf 2019, mae dros 13 o brosiectau wedi cael eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau addysg, creu mwy o ddolydd, gwaith i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol a chynllun i gefnogi pryfed peillio ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Os hoffech chi ddysgu mwy am waith yr elusen neu gael eich gwahodd i ddigwyddiadau yn y dyfodol, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr chwarterol RHAD AC AM DDIM ar www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle