Dewch i gyfarfod gwirfoddolwyr Childline 230 milltir ar wahân, sy’n cwnsela plant yn Gymraeg

0
376
Childline volunteers Huw Meredith and Rhun Dafydd pictured with volunteer co-ordinator Sally King-Sheard at Childline's Prestatyn base

  • Gwirfoddolwyr yn helpu gwasanaeth Childline yr NSPCC i gwnsela plant sy’n siarad Cymraeg
  • Mae Rhun a Huw, gwirfoddolwyr, yn rhoi eu hamser rhydd i wrando ar bryderon plant pryderus
  • Childline Prestatyn yn chwilio’n daer am fwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg
Childline volunteers Huw Meredith and Rhun Dafydd pictured with volunteer co-ordinator Sally King-Sheard at Childline’s Prestatyn base

Mae gwirfoddolwyr gwasanaeth Childline yr NSPCC wedi bod yn rhannu eu profiad o gefnogi’r gwasanaeth cwnsela Cymraeg, er eu bod yn byw mewn gwahanol wledydd a 230 milltir ar wahân.

Fe wnaeth Rhun Dafydd, 29, a Huw Meredith, 60, gofrestru i wirfoddoli gyda Childline yn gynharach eleni, ac fel siaradwyr Cymraeg, yn barod i gwnsela plant yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddibynnu ar ddewis y person ifanc sy’n cysylltu â’r gwasanaeth.

Rhun Dafydd, Childline volunteer

Mae gwirfoddolwyr Childline yn cwnsela plant a phobl ifanc bob dydd o’r flwyddyn am unrhyw beth a allai fod yn eu poeni, o bryderon iechyd meddwl a straen arholiadau, i berthnasoedd teuluol a cham-drin. Gall plant a phobl ifanc sydd eisiau siarad â chwnselydd Childline sy’n siarad Cymraeg, gysylltu â’r gwasanaeth dros y ffôn neu ar-lein a gwneud y cais hwnnw.

Mae Rhun yn byw yn Rhuthun ac yn gwirfoddoli yn Childline Prestatyn, ac mae Huw wedi byw’r rhan fwyaf o’i fywyd yn Llundain, gan ddysgu Cymraeg ar flwyddyn fwlch yn Aberystwyth.

Huw Meredith is a volunteer Childline counsellor with NSPCC Cymru Wales

Clywodd Huw am Childline am y tro cyntaf pan gafodd ei sefydlu yn y 1980au oherwydd ei waith gyda phlant sy’n derbyn gofal. Aeth ei yrfa i gyfeiriad gwahanol, ond roedd bob amser yn awyddus i ddod yn ôl i gefnogi plant a phobl ifanc.

Meddai Huw: “Meddai Huw: “Fe ymddeolais i llynedd, ac yna ym mis Ionawr, gwelais erthygl ar Cymru Fyw i ddweud bod Childline yn brysur iawn oherwydd COVID, a bod angen rhagor o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg arnyn nhw. Fe wawriodd arna i, gan ei fod yn wasanaeth ffôn ac ar-lein, y gallwn i gymryd rhan o Lundain. Fe wnes i gysylltu a dyma fi!

“Mae’r hyfforddiant i gwnselwyr gwirfoddol heb ei ail, felly roeddwn yn teimlo fy mod wedi ymgolli’n llwyr yn y model cwnsela unigryw ar gyfer Childline o’r diwrnod cyntaf, ac fe wnaeth hyn fy helpu drwy’r newidiadau cyntaf wrth i mi fagu hyder.

Childline volunteer, Rhun Dafydd

“Rhaid i wirfoddolwyr fod yn barod ar gyfer cysylltiadau gan blant sy’n delio â sefyllfaoedd heriol iawn – yn aml mae hyn yn cael ei wneud yn llawer gwaeth gan nad oes ganddyn nhw neb i siarad â nhw am y cyfan. Felly, hyd yn oed os ydych chi ar ben y lein, yn clywed ac yn gwrando ar beth maen nhw’n ei ddweud, gallwch deimlo eich bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Ac rydych chi’n cael eich cefnogi a’ch goruchwylio’n dda ar shifft i’ch helpu chi gyda sgyrsiau anodd neu pan fydd y plentyn mewn perygl.”

Ar daith ddiweddar i weld ffrindiau yng Nghymru, ymwelodd Huw â chanolfan Childline ym Mhrestatyn i gwrdd â chwnselwyr eraill sy’n siarad Cymraeg. Mae 12 o ganolfannau Childline ledled y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd a Phrestatyn, sydd wedi addasu ac esblygu i sicrhau y gallai Childline ddarparu gwasanaeth yn ystod y pandemig, er gwaethaf y ffaith bod llai o wirfoddolwyr ar gael am resymau fel gwarchod ac addysgu gartref.

Huw Meredith started volunteering for Childline in Prestatyn in 2021

Mae gwirfoddolwyr yn darparu sesiynau cwnsela i blant a phobl ifanc am bopeth, o gam-drin, esgeulustod a hunanladdiad i chwalfa perthynas, straen arholiadau a phryderon iechyd meddwl. Mae bron i 90,000 o sesiynau cwnsela wedi cael eu cynnal ledled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am les meddyliol a cham-drin yn unig.

Meddai Huw: “Mae Childline wedi bod yma drwy gydol y pandemig ac mae wedi bod yn bwysicach nag erioed bod gan blant le diogel i siarad, yn enwedig pan mae eu cyswllt â phlant ac oedolion eraill wedi bod mor gyfyngedig. Er bod COVID wedi dod â’i broblemau ei hun, dylem gofio nad yw’r holl faterion eraill y mae’n rhaid i blant ddelio â nhw – cam-drin, profedigaeth, bwlio ac yn y blaen – wedi diflannu.”

Huw Meredith is a volunteer Childline counsellor with NSPCC Cymru Wales

Ychwanega Rhun: “Bob wythnos, mae pobl ifanc wedi dweud wrthyf am y gwahaniaeth mae Childline yn ei wneud. Maen nhw wedi dweud pa mor bwysig yw hi iddyn nhw gael rhywun i siarad â nhw, sy’n gwrando ac yn poeni amdanyn nhw. Pe na bai Childline yn gwneud gwahaniaeth, yna ni fyddai’r gwasanaeth mor brysur â hynny.”

Mae Childline yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gadw’r gwasanaeth i fynd. Fodd bynnag, mae ar y canolfannau yng Nghaerdydd a Phrestatyn angen oedolion, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, sy’n fodlon rhoi lleiafswm o 4.25 awr yr wythnos i’w helpu i fod yno i blant a phobl ifanc yn eu cyfnodau o angen.

Meddai Rhun: “Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy magu mewn cymuned yng Nghymru, felly roedd y defnydd o Saesneg wir yn ail iaith. Pe bai gennyf unrhyw broblemau fel plentyn, byddwn bob amser yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad yn Gymraeg, oherwydd yr iaith honno sy’n cynrychioli fy hun orau, ac mae’r cartref hwnnw’n cynrychioli diogelwch. Rwy’n credu bod gan bob plentyn yr hawl i gael y diogelwch hwnnw ym mha bynnag iaith y maen nhw’n ei dewis.”

Ychwanegodd Huw: “I blant sy’n cysylltu â Childline, mae’n aml yn gofyn am lawer o ddewrder a chadernid i gysylltu â Childline yn y lle cyntaf, ac yn aml iawn mae plant yn cael trafferth dod o hyd i’r geiriau i fynegi sut maen nhw’n teimlo.

“Felly, dychmygwch faint yn anoddach yw hynny os nad ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gallu defnyddio eich iaith gyntaf, neu os byddwch chi’n cael cwnselydd sydd ddim yn eich deall chi. Mae Childline yn wasanaeth cenedlaethol felly mae angen i gwnselwyr a goruchwylwyr ledled y DU fod yn ymwybodol, ac yn ddigon hyderus i sicrhau bod y plentyn yn cysylltu â chwnselydd Cymraeg – ond mae angen mwy o’r rheini arnom ni er mwyn i ni allu ymateb bob tro!”

Rhun Dafydd, Childline volunteer

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Childline a’r pecyn hyfforddi cynhwysfawr y mae’n ei gynnwys, cysylltwch â Sally.King-Sheard@nspcc.org.uk neu 01745 772 101 ar gyfer canolfan Prestatyn, neu volunteerrecruitment@nspcc.org.uk ar gyfer canolfan Caerdydd.

Gan fyfyrio ar ei brofiad gwirfoddoli ers ymuno ym mis Ionawr, meddai Huw: “Mae’n ddyddiau cynnar i mi o hyd, ond hyd yn hyn, rydw i’n dweud mai dyma un o’r pethau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi erioed, ac fe fyddwn i’n ei argymell yn fawr.

“Rydw i wedi dysgu cymaint o’r hyfforddiant, amdanaf fy hun a sut rydw i’n ymwneud ag eraill. Ac ar shifft, mae’n fraint fawr cael pobl ifanc i rannu rhan o’u bywydau gyda mi, felly gallaf chwarae rhan fach hyd yn oed yn y gwaith o’u cefnogi.”

Mae’n deimlad sy’n cael ei rannu gan Rhun, sy’n dweud: “Am flynyddoedd roeddwn i’n teimlo fel bod rhywbeth ar goll yn fy mywyd, ac rydw i wedi dod o hyd iddo wrth ddod yn wirfoddolwr Childline. Un peth nad oeddwn i erioed wedi’i ddisgwyl oedd y byddai fy rôl yn Childline mor bwysig i mi’n bersonol.

“Mae rhai teimladau mewn bywyd sy’n rhy fawr ac arbennig i’w rhoi mewn geiriau, ac mae helpu plant a phobl ifanc yn un o’r rheini. Byddwn yn argymell rôl yn Childline i unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun arall, neu hyd yn oed eu bywyd eu hunain.”

Gall plant a phobl ifanc sydd eisiau gwybodaeth ar gysylltu â Childline yn Gymraeg ddarganfod mwy yma. Mae Childline ar gael i bobl ifanc 24/7 ar 0800 1111 neu www.childline.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle