Mae pobl ifanc yng Nghymru sydd ar fin troi’n 18 oed yn cael eu gwahodd i gael eu brechiad Covid-19 cyntaf. |
Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, bydd pobl ifanc sy’n 17 mlwydd a 9 mis oed neu’n hŷn naill ai’n cael eu gwahodd i apwyntiad sydd wedi’i drefnu ymlaen llaw neu gallan nhw fynd i glinig brechu galw heibio os oes un ar gael yn eu bwrdd iechyd lleol.
Y gobaith yw y bydd cyfran uchel o’r bobl ifanc yn y grŵp hwn yn manteisio ar y cynnig. Bydd llawer ohonynt yn dechrau gweithio neu’n mynd i’r brifysgol yn yr hydref. Mae bron 80% o oedolion Cymru wedi cael eu brechu’n llawn – y cyfraddau gorau yn y DU a rhai o’r goreuon yn y byd. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, Gill Richardson: “Dyma gam nesaf ein rhaglen frechu lwyddiannus a’r cam cyntaf tuag at ddarparu brechlynnau i blant a phobl ifanc. Byddwn yn gweithredu’n gyflym i frechu plant a phobl ifanc 12-17 oed sydd yn y categorïau a gafodd eu nodi yng nghanllawiau diweddar y Cyd-bwyllgor ar frechu plant. “Mae ein rhaglen frechu’n parhau i wneud cynnydd rhagorol, ac mae dros 2 filiwn o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu’n llawn. Rydym yn hynod o ddiolchgar am waith holl staff y GIG, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog sy’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.” Y bwriad wrth ddechrau’r broses cyn bod y bobl ifanc yn 18 oed yw sicrhau bod cynifer â phosibl ohonynt yn manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn wrth iddynt deithio ymhellach a dod yn fwy annibynnol. Bydd llawer yn dechrau gweithio neu’n dechrau yn y brifysgol yn nhymor yr hydref. Mae’r Cyd-bwyllgor hefyd wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn COVID-19 i blant a phobl ifanc 12 oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd penodol sydd eisoes yn bodoli ac sy’n peri risg o COVID-19 difrifol iddyn nhw. Mae’r byrddau iechyd wrthi’n nodi’r plant sydd wedi’u cynnwys yng nghyngor y Cyd-bwyllgor er mwyn eu gwahodd i gael eu brechu. Bydd plant a phobl ifanc 12-17 oed sy’n byw gyda rhywun – naill ai oedolyn neu blentyn – sydd â system imiwnedd wan hefyd yn cael cynnig brechlyn i helpu i ddiogelu’r rhai y maen nhw’n byw gyda nhw. Byddant yn cael cynnig y brechlyn Pfizer-BioNTech yn ystod yr wythnosau nesaf. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rydym yn croesawu cyngor y Cyd-bwyllgor ac yn cytuno â’r argymhellion. Ein tasg nawr yw gweithredu’r cam nesaf hwn o’r rhaglen frechu mor gyflym ac effeithlon â phosib. “Mae rhaglen frechu Cymru gyda’r gorau yn y byd ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan ohoni am eu cyfraniad i’w gwneud hi’n rhaglen mor llwyddiannus. “Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu, er mwyn helpu i’w diogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddyn nhw.” |
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle