Elusennau Iechyd Hywel Dda ar yr her ’60 ym mis Medi ‘

0
250

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cynnal her ‘60 ym mis Medi’ eto eleni, a hynny i godi arian ar gyfer cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff lleol y GIG.

Maent yn annog pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i gofrestru ar gyfer y digwyddiad – fel y gwnaeth Annmarie Thomas o Gaerfyrddin y llynedd.

Annmarie Thomas 60 in September

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw meddwl am weithgaredd sy’n seiliedig ar y rhif 60, ei gwblhau yn ystod mis Medi, ac addo codi o leiaf £60. Gallwch godi arian i ysbyty, ward neu wasanaeth o’ch dewis yn ardal Hywel Dda, neu ar gyfer y Gronfa Ymateb Cymorth am Oes.

Gallech redeg, cerdded neu feicio 60 milltir; cyflawni 60 o fyrfreichiau (press-ups) y dydd; cyflawni 60 o hapweithredoedd caredig; pobi 60 o gacennau. Neu os byddwch yn dathlu eich pen-blwydd yn 60 ym mis Medi, beth am ofyn am roddion yn lle anrhegion? Mae’r rhestr o syniadau yn ddiddiwedd.

Anogodd Annmarie ei chyd-weithwyr yn y GIG i gyflawni hapweithredoedd caredig ar gyfer ei her 60 ym mis Medi.

Roedd Annmarie, sy’n Bennaeth y Gweithlu yn Nhîm Adnoddau a Chyfleustodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng Nghaerfyrddin, wedi gwahodd cyd-weithwyr i hyrwyddo hapweithredoedd caredig yn y gweithle, gan godi arian ar yr un pryd.

Dywedodd Annmarie: Mae dangos caredigrwydd tuag at ein gilydd yn y gwaith yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano.

“Nid oes angen i’r weithred o wneud cymwynas gostio unrhyw beth. Gall fod mor syml ag anfon neges e-bost i ddiolch i rywun, pobi cacen i’r tîm, ac ati.”

Dywedodd Tara Nickerson, y Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda, fod yr elusen wedi’i syfrdanu’n llwyr gan y gefnogaeth a gafodd gan ei chymunedau lleol.

“Byddem wrth ein bodd pe gallai pobl ddangos eu cefnogaeth trwy gymryd rhan yn ein her 60 ym mis Medi. Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sydd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod o ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”

Nid oes yna unrhyw reolau ar gyfer yr her ’60 ym mis Medi’ – ac eithrio canllawiau’r Llywodraeth o ran cadw pellter cymdeithasol.

Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn codi o leiaf £60 ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda. Gallwch gofrestru yn https://60inseptember21.eventbrite.co.uk

Gallwch hefyd gofrestru trwy gysylltu â swyddfa codi arian Hywel Dda yn fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk neu ar 01267 239815.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle