Galwad am gyfraniadau gan y cyhoedd i bodlediad taith gerdded sain Santes Non

0
275
Capsiwn: Gwahoddir pobl sydd â chysylltiadau ag ardal Santes Non i gymryd rhan yn y gwaith o greu podlediad taith gerdded sain arbennig, a fydd yn brofiad sain sy'n seiliedig ar leisiau a cherddoriaeth y lle a'r gymuned arbennig hon.

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu tuag at brosiect newydd cyffrous, a fydd yn dathlu hanes, tirwedd a phobl ardal eiconig Santes Non yn Sir Benfro drwy gyfrwng sain.

Ar ben y clogwyni lai na milltir o Dyddewi, yn edrych allan dros Fae Sain Ffraid, ger Capel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd, yn ôl traddodiad, y rhoddodd Non enedigaeth i Dewi. Dylanwadodd Santes Non a Dewi Sant, nawddsant Cymru, ar ledaeniad Cristnogaeth drwy fyd Celtaidd y 6ed ganrif, yng Nghymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw.

Y lleoliad trawiadol, hanesyddol a gwyllt hwn fydd y man cychwyn ar gyfer yr awduron/darlledwyr adnabyddus, Laura Barton a Horatio Clare, sydd wedi cael eu comisiynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i greu podlediad taith gerdded sain yn edrych ar hanes, pobl a thirwedd ardal Santes Non.

Bydd Horatio a Laura yn gweithio ochr yn ochr â’r cynhyrchydd ymgynghorol sy’n byw yn Sir Benfro, Graham Da Gama Howells, a pheiriannydd sain y BBC, Andy Fells, a bydd y recordio yn cychwyn yng nghanol mis Awst.

Yn ôl Horatio Clare, sy’n cyflwyno cyfres arbennig Sound Walks ar Radio 3 yn flynyddol: “Mae cael ein comisiynu i greu darlun byw mewn sain o’r lle arbennig hwn yn fraint fawr i bob un ohonom. Rydym yn edrych ymlaen i ddechrau recordio – a gweithio gyda’r bobl leol i recordio – storïau Tyddewi, Santes Non a Sir Benfro.

“Rydym yn cynhyrchu’r daith gerdded sain ac archif sain, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un dudalen, lle bydd recordiad o bawb sy’n cyfrannu ar gael i’n gwrandawyr ei glywed.

“Y nod yw creu rhywbeth, wedi’i greu yng Nghymru, sy’n haeddu cynulleidfa fyd-eang. Mae lle hudolus yn haeddu darlun hudolus mewn sain. Â chymorth pawb sy’n dymuno cymryd rhan, rwy’n siŵr y gallwn wneud hynny.”

Bydd taith gerdded sain Santes Non yn brofiad sain a fydd yn seiliedig ar leisiau a cherddoriaeth y lle a’r gymuned arbennig hon. Bydd y gwrandawyr yn dysgu am ffynhonnau, seintiau, capeli, pererinion, byd natur, yr iaith, archaeoleg, ffermio a defnydd tir, modernedd, cadwraeth ac arwyddocâd ehangach y lle hwn ar gyfer hunaniaeth Gymreig a diwylliant Ewropeaidd. Bydd y gwaith gorffenedig ar gael fel podlediad y gall unrhyw un yn unrhyw ran o’r byd ei lwytho i lawr, gyda’r bwriad o gyflwyno’r lle, ei hanes a’i bobl i gynulleidfa ryngwladol.

Gwahoddir awduron, artistiaid, cerddorion, archaeolegwyr, amgylcheddwyr, syrffwyr, adroddwyr storïau, cerddwyr, dringwyr, cychwyr a physgotwyr lleol i ddweud eu storïau. Mae’r tîm cynhyrchu hefyd yn cynnig cyfleoedd i drigolion ifanc yr ardal gael hyfforddiant, cyfle i ddatblygu a phrofiad gwaith ym maes darlledu, recordio sain ac ymchwil. Os hoffech gymryd rhan cysylltwch â Horatio Clare drwy anfon ebost i horatioclare@hotmail.com.

Cefnogir prosiect taith gerdded sain Santes Non gan Ancient Connections, prosiect cyffrous yn ymwneud â’r celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth sy’n cysylltu Gogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, dan arweiniad Cyngor Sir Penfro, ynghyd â’i bartneriaid, Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. I ddarganfod mwy am Ancient Connections ewch i www.ancientconnections.org.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle