PROSIECT PARTNERIAETH AMGYLCHEDD GWLEDIG YN RHYBUDDIO BOD TIRWEDD PERTHI CYMRU YN WYNEBU DYFODOL LLWM

0
400
Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK. Pictured is local Hedgelayer Malcolm Edwards alongside one of his living fences.

Mae Perthi Cymru yn wynebu dyfodol llwm heb weithredu ar frys i gefnogi sgiliau crefft traddodiadol, sy’n marw allan, mae prosiect partneriaeth amgylchedd gwledig Cymru yn rhybuddio.

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured are Local Hedgelayer Malcolm Edwards (orange overalls), with Dyffryn Tywi hedgelaying apprentices Osian Owen (shorts) and Dan Bakewell.

Mae ‘Dyffryn Tywi – Hanes Tirwedd Ein Bro’, sydd wedi’i leoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (prif bartner y prosiect), yn rhybuddio y bydd methu â gweithredu nawr i gefnogi ein perthi yn niweidio eu cyfraniad enfawr posibl at atal llifogydd, cadwraeth bywyd gwyllt ac yn y pen draw y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae partneriaid yn y Prosiect, sydd wedi lansio gwefan newydd, www.dyffryntywi.org.uk yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Parc yr Esgob Abergwili, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr.

Mae’r prosiect hefyd yn cwmpasu rhwydwaith o dirfeddianwyr a rhanddeiliaid lleol yng nghanol Dyffryn Tywi, rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.

Mae Prosiect Dyffryn Tywi yn nodi bod perthi trwchus, sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda, yn rhan hanfodol o dirwedd wledig Cymru ac yn hafan bwysig i fywyd gwyllt.

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured are Local Hedgelayer Malcolm Edwards (orange overalls), with Dyffryn Tywi hedgelaying apprentices Osian Owen (shorts) and Dan Bakewell.

Mae’n dweud y gall perthi hefyd arafu dŵr ffo a helpu i amddiffyn rhag llifogydd, ac y gallant chwarae rhan allweddol mewn dal a storio carbon – gan dynnu’r nwy tŷ gwydr carbon deuocsid o’r atmosffer, gan helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ond mae’r Prosiect yn dweud bod y sgiliau traddodiadol sydd eu hangen i gadw ein perthi yn fyw ac yn ffynnu yn dirywio – mae llawer o’r plygwyr perthi lleol gorau bellach yn eu 80au ac nid yw eu sgiliau’n cael eu trosglwyddo. Mae plygu perthi priodol yn cael eu disodli gan reoli perthi’n fecanyddol – fel ffustio sy’n gallu gwneud difrod aruthrol ac anadferadwy weithiau i berthi.

Dywedodd Helen Whitear, arweinydd Prosiect Dyffryn Tywi:

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured are Local Hedgelayer Malcolm Edwards (orange overalls), with Dyffryn Tywi hedgelaying apprentices Osian Owen (shorts) and Dan Bakewell plus Helen Whitear (Dyffryn Tywi Project Officer).

“Mae ein perthi yn gyswllt rhwng y gorffennol a’r dyfodol, ac yn enghraifft dda iawn o sut mae ein hamgylcheddau naturiol a diwylliannol yn cydblethu’n sylfaenol. Mae’n hawdd cymryd perthi’n ganiataol – mae pobl yn aml yn tybio mai dim ond rhan o’r amgylchedd ‘naturiol’ ydyn nhw.

Mae perthi’n hanfodol ar gyfer cefnogi bywyd gwyllt, ond mae perthi Dyffryn Tywi hefyd yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol – maen nhw’n llawn hanes a sgiliau lleol.

Cyn ffensys post a gwifren, roedd yn rhaid i berthi gael eu hadeiladu’n dda a’u cynnal a’u cadw’n dda, ar gyfer rheoli stoc. Mae cynnal mewn ffordd draddodiadol, i arddull leol yn parhau gwybodaeth a dealltwriaeth sydd wedi datblygu a goroesi dros gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Mae’n ymwneud â hunaniaeth yr ardal leol mewn oes o globaleiddio. Mae’n ymwneud â gwneud ein rhan i helpu’r amgylchedd yn ein ffordd arbennig ein hunain.”

Mae’r broses o blygu perthi’n cael ei chyflawni drwy greu ymylon byw. Mae ‘Plygu’ drwy’r goes yn gorfodi’r planhigyn i droi a hollti, gan ffurfio colfach. Yna, mae’r goes yn cael ei gosod yn llorweddol, cyn ised â phosibl i’r ddaear. Mae haenau ychwanegol yn diogelu’r toriadau blaenorol ac unwaith y byddant wedi’u hadeiladu, yn diogelu twf newydd rhag da byw, gan greu rhwystr trwchus sy’n atal anifeiliaid.

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured are Local Hedgelayer Malcolm Edwards (orange overalls), with Dyffryn Tywi hedgelaying apprentices Osian Owen (shorts) and Dan Bakewell plus Helen Whitear (Dyffryn Tywi Project Officer).

Mae Malcolm Edwards, o gyrion Pentregwenlais, Llandybie, yn ymarferydd crefftau gwledig sydd wedi bod yn plygu perthi ers dros 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda phrentisiaid Prosiect Dyffryn Tywi, gan drosglwyddo ei sgiliau perthi i’r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd Malcolm: “Mae perthi â chalon fyw dda, yn atal erydiad ac arafu llifddwr. Mae Cymru angen i’r arfer hwn fod ar flaen y gad o ran hwsmonaeth fferm gynaliadwy dda. Mae llawer o’r plygwyr perthi rwy’n eu hadnabod bellach yn eu 80au ac mae eu gwybodaeth a’u sgiliau yn diflannu’n gyflym.

Mae fy 20 mlynedd a mwy fel plygwr perthi yn amser byr yn oes fferm neu’r blynyddoedd ers creu llinell perthi hyd heddiw. Rwyf wedi bod yn lwcus cael dysgu gan fy nheulu oedrannus, ffermwyr rwyf wedi gweithio gyda nhw ar hyd y ffordd a mentora da.

Gobeithio y bydd dangos pa mor bwysig yw ein perthi lleol yn ysbrydoli neiniau a theidiau o’r byd amaeth i fynd â’u hwyrion a’u hwyresau neu eu meibion a’u merched at y cloddiau ar hyd eu caeau. Dangoswch iddyn nhw y gwaith a wnaeth eich rhieni neu’ch neiniau a theidiau er mwyn iddyn nhw allu dysgu beth sy’n gweithio ar eich fferm. Mae’r grefft yno i’w gweld ar hyd ffiniau’r caeau yn y perthi ac efallai y bydd y wybodaeth yno o hyd os gofynnwch i’r bobl iawn.”

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured is local Hedgelayer Malcolm Edwards with Helen Whitear (Dyffryn Tywi Project Officer).

Dywedodd Osian Owen, un o brentisiaid Amgylcheddol a Chadwraeth Prosiect Dyffryn Tywi: “Rwy’n mwynhau plygu perthi gan fy mod yn ei chael hi’n heddychlon ac yn ysgogol, ac mae’r cysylltiad rwy’n ei deimlo â’r tir a chenedlaethau’r gorffennol a fyddai wedi gwneud yr un peth, yn arbennig.

Mae ceisio dod o hyd i’r safleoedd gorau i osod plygiadau o un llwyn i mewn i’r llall fel gêm hen ffasiwn o Tetris. Mae plygu perthi yn bwysig gan ei fod yn ffordd o adfywio hen berthi sy’n hyrwyddo ac yn creu cynefinoedd a ffynonellau bwyd ar gyfer pob math o anifeiliaid, drwy ddull sy’n fwy ecogyfeillgar.

Mae’r cysylltiad â’r gorffennol hefyd yn bwysig, dulliau dysgu y byddai ein cyndadau wedi’u defnyddio ar draws Dyffryn Tywi a thu hwnt, a chadw’r traddodiadau hynny’n fyw.”

Ar y wefan newydd, mae Prosiect Dyffryn Tywi yn datgan: ‘​Mae Dyffryn Tywi yn parhau i fod yn dirwedd amaethyddol weithiol, y mae ei chymeriad wedi’i diffinio gan ffermio traddodiadol a rheoli tir. Nod Prosiect Dyffryn Tywi yw annog pobl – pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd – i werthfawrogi a mwynhau’r dirwedd hon, drwy ddeall yr hyn sydd wedi ei gwneud yn arbennig ac yn unigryw.’

Traditional hedgelaying skills photo-shoot at Carmel in Carmarthenshire, Wales, UK.
Pictured is local Hedgelayer Malcolm Edwards alongside one of his living fences.

Mae’r rhestr lawn o bartneriaid ym Mhrosiect Dyffryn Tywi – Hanes Tirwedd Ein Bro yn cynnwys:

Cadw, Cadwch Gymru’n Daclus, Canolfan Tywi, Cyngor Sir Caerfyrddin, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Gelli Aur, Huw Jones Fferm Penpal, Llais y Goedwig, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Parc yr Esgob, Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle