Mae Heddlu Dyfed-Powys yn edrych ymlaen at groesawu Prif Gwnstabl presennol Heddlu Cleveland, Dr Richard Lewis, adref wrth i’r Panel Heddlu a Throseddu gymeradwyo ei ddewis fel Prif Gwnstabl nesaf yr heddlu.
Fel ymgeisydd o ddewis Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, i arwain yr heddlu yn dilyn ymddeoliad Mark Collins yn gynharach eleni, mae Dr Lewis yn dychwelyd i Heddlu Dyfed-Powys, ar ôl gwasanaethu fel Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland ers mis Ebrill 2019.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, dechreuodd ei yrfa gyda’r gwasanaeth heddlu yn 2000. Yn ystod ei 18 mlynedd gyda Heddlu Dyfed-Powys, gwasanaethodd ym mhob rheng hyd at Ddirprwy Brif Gwnstabl, gan weithio ym mhob un o bedair sir yr ardal heddlu. Hefyd, bu’n bennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol, a chadeiriodd Weithgor Gwrthderfysgaeth Cymru.
Gan siarad ar ôl i’r Panel Heddlu a Throseddu gadarnhau ei benodiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Lewis:
“Yr wyf newydd anfon neges at bob aelod o Heddlu Dyfed-Powys, yn nodi fy amcanion o ran gweithio gyda nhw ar ôl imi ddychwelyd i’r heddlu; gan eu gwahodd i rannu eu llais wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol, a gosod y safonau rwy’n eu disgwyl wrth gyflwyno gwasanaeth i’n cymunedau. Byddwn yn diffinio ein blaenoriaethau’n glir ac yn canolbwyntio arnynt yn ddi-baid.
“Mae cyflwyno’r gwasanaeth gorau i’n cymunedau hefyd yn golygu bod angen inni fod yn ddiwylliannol ymwybodol, a chydnabod anghenion ein cymunedau – o statws y Gymraeg, hyd at anghenion pobl o rannau heriol o’r byd sydd wedi canfod lle diogel ac wedi ymgartrefu yma yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
“Rwyf eisiau i bob aelod staff, swyddog a gwirfoddolwr deimlo ei fod yn gallu bod yn wir yn ef ei hunan yn y gwaith; dyna pryd yr ydym yn gwneud pethau mawr.
Yn 2010, enillodd Ysgoloriaeth Fulbright, sef rhaglen addysgol arobryn ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania lle yr astudiodd leoliadau gynnau taser sy’n arwain at achosion niweidiol. Cynhaliwyd y gwaith mewn asiantaethau plismona mor amrywiol ag adrannau heddlu Dallas, Seattle ac Efrog Newydd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i amser yn yr Unol Daleithiau’n gweithio gydag Uned Gwasanaeth Brys Adran Heddlu Efrog Newydd yn Brooklyn.
Dr Lewis yw arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer moeseg, ac mae’n cadeirio’r Pwyllgor Moeseg Cenedlaethol. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei ddoethuriaeth gyda Phrifysgol Sba Caerfaddon.
Wrth i Dr Lewis baratoi i adael Heddlu Cleveland – gwasanaeth heddlu sydd wedi ei lethu gan ei groeso a’i benderfyniad i wella – bydd y Prif Gwnstabl Dros Dro, Claire Parmenter, sydd wedi arwain Heddlu Dyfed-Powys ers mis Mawrth eleni, yn parhau i ganolbwyntio ar adferiad yr heddlu wedi’r pandemig hyd nes y bydd Dr Lewis yn cychwyn ei swydd newydd gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi Dr. Richard Lewis fel Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, yn dilyn cefnogaeth unfrydol gan y Panel Heddlu a Throsedd heddiw.
“Pan ddechreuais ar y broses hon, roedd yn bwysig fy mod yn recriwtio Prif Swyddog a allai ddod â’r weledigaeth, y penderfyniad a’r gwytnwch sy’n ofynnol i arwain yr Heddlu yma yn Nyfed-Powys. Fe berfformiodd Richard yn dda iawn trwy gydol yr holl broses asesu a dangos sgiliau arwain gwych. Mae ei brofiad a’i ddealltwriaeth helaeth o blismona ynghyd â’i wybodaeth am ardal Dyfed-Powys yn ei roi mewn lle da i gefnogi’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
“Fel Prif Gwnstabl gweledigaethol, bydd Richard yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed gan ei ragflaenydd, Mark Collins a ymddeolodd yn gynharach eleni, i wella ansawdd ein gwasanaeth yn barhaus, amddiffyn ein cymunedau a chwrdd â disgwyliadau’r cyhoedd.
“Mae ganddo hanes gwych o ymladd troseddau a rheoli plismona cymunedol ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda Richard i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac i ddatblygu Llu sy’n gwasanaethu ar gyfer heddiw ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle