Dŵr Cymru’n Arloesi wrth Helpu i Atal Llifogydd a Digwyddiadau o Lygredd

0
274

Dwr Cymru Welsh Water (DCWW)

  • Dŵr Cymru’n profi synhwyrydd radar sy’n canfod problemau ar y rhwydwaith yn llwyddiannus – gan helpu i atal llifogydd mewnol neu ddigwyddiadau o lygredd

  • Mae’n darparu darlleniad mwy manwl wrth ddelio â rhwystrau mewn carthffosydd nag offer radar uwchsonig

  • Daeth y teclyn arloesol yma ymhlith goreuon y gweddill yng nghategori addasiad i’r farchnad gwobrau’r Sefydliad Dŵr

  • Weips, cewynnau, olew a saim sy’n achosi 2/3 o dagfeydd mewn carthffosydd

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid er elw yng Nghymru a Lloegr, wedi profi synhwyrydd radar arloesol sy’n gallu helpu i atal digwyddiadau o lifogydd carthion yn llwyddiannus.

Mae’r synhwyrydd radar Vega arloesol wedi cael ei brofi’n drylwyr a chafwyd ei fod yn perfformio’n llwyddiannus hyd yn oed wrth ddelio â chadachau, saim ac eitemau eraill sy’n gallu achosi problemau difrifol ar y rhwydwaith ac sydd, yn yr achosion gwaethaf, yn gallu arwain at ddigwyddiadau o lifogydd a llygredd. Y radar yw’r esblygiad nesaf wrth fonitro lefelau, a bydd ar gael ar gyfer unrhyw waith datblygu a gwella yn y dyfodol.

Mae rheoli rhwydwaith o 30,000 km o garthffosydd sy’n gwasanaethu dros 3 miliwn o bobl a busnesau yn waith 24/7. Mae’r synwyryddion yn allweddol i ganfod problemau ar y rhwydwaith ac yn hanfodol i gyflawni gwasanaethau hanfodol Dŵr Cymru. Trwy glustnodi digwyddiadau’n fanwl-gywir, gall y cwmni fod yn rhagweithiol wrth fynd i ardaloedd lle’r ydyn ni’n gwybod bod yna broblem, a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon.

Mae’r synhwyrydd radar yn torri tir newydd am ei bod yn rhoi darlleniadau manwl dim ots beth yw’r amodau yn y garthffos, gan gynnwys pethau fel cadachau, weips a saim. Er bod Dŵr Cymru’n dod o hyd i atebion arloesol i broblemau sy’n achosi problemau difrifol fel llifogydd, gellir osgoi’r rhan fwyaf o dagfeydd mewn carthffosydd. Y peth mwyaf dychrynllyd yw bod 2/3 o dagfeydd mewn carthffosydd yn cael eu hachosi gan bethau na ddylai fod yno, fel weips, cewynnau a ffyn gwlân cotwm, a phobl yn golchi pethau fel braster, olew a saim i lawr y sinc. Gall effeithiau hyn arwain at lifogydd erchyll yng nghartrefi pobl.

Dywedodd Mike Loyns, y Peiriannydd Asedau Dŵr Gwastraff:

“Mae’r synhwyrydd  Vega yn esiampl ragorol o sut mae arloesedd yn gwella ein dulliau o gyflawni gwasanaethau hanfodol yn barhaus gan ddefnyddio’r datblygiadau digidol a thechnolegol diweddaraf. Trwy ddarparu data manwl gywir amser real, gall yr ateb newydd yma wella ein hamser ymateb, gan roi diwedd ar ymweliadau diangen a darlleniadau gwallus.

“Mae angen i gwsmeriaid chwarae eu rhan hefyd trwy helpu i stopio’r bloc. Mae cwta un weip yn ddigon i flocio eich pibell garthffosiaeth a gallai hynny achosi llifogydd erchyll yn eich cartref.”

Dywedodd Sean Gregory, y Rheolwr Ymchwil ac Arloesedd:

“Mae arloesi wrth galon cynlluniau Dŵr Cymru ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i weithio tuag at gyflawni ein targedau amgylcheddol ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, gwydn a fforddiadwy am ddegawdau i ddod. Felly mae’r cwmni wedi neilltuo cyllideb uwch nag erioed o dros £80 miliwn i gyflawni gwaith ymchwil ac arloesi dros y pum mlynedd nesaf er mwyn trawsnewid gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.

Hoffai’r cwmni atgoffa  cwsmeriaid i daflu unrhyw weips, ffyn gwlân cotwm a nwyddau mislif yn y bin, a gwaredu braster, olew a saim mewn ffordd gyfrifol yn hytrach na’u harllwys i lawr y sinc.  Am ragor o fanylion ewch yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle