Peredur yn Beirniadu Prif Weinidog y DU am Sylwadau ‘Gwag’ y Pwll Glo

0
383
Peredur Owen Griffiths MS

Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi beirniadu Prif Weinidog y DU am wneud hwyl am gau pyllau glo yn y 1980au.

Dywedodd AS Dwyrain De Cymru bod sylwadau Boris Johnson am y polisi cau pyllau glo o dan y Prif Weinidog Torïaidd Margaret Thatcher yn “hynod o sarhaus ” i’r bobl a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn fawr yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Johnson, a oedd yn chwerthin wrth wneud y sylwadau: “Diolch i Margaret Thatcher, a gaeodd gymaint o lofeydd ar draws y wlad, cawsom ddechrau cynnar ac rydym bellach yn symud yn gyflym oddi wrth lo yn gyfan gwbwl.”

Dywedodd Peredur, sy’n cynrychioli etholaethau sydd â threftadaeth lofaol ddwfn fel Blaenau Gwent, Caerffili ac Islwyn: “Mae’r sylwadau gwag a niwlog hyn yn sarhaus iawn i’r miloedd o bobl rwy’n eu cynrychioli a effeithiwyd arnynt gan streic lofaol 1984-85 a’r canlyniadau a ddilynodd wedi hynny.

“Cafodd cymunedau rwy’n eu cynrychioli eu chwalu a taflwyd teuluoedd i mewn i dlodi oherwydd bod Llywodraeth Dorïaidd wedi datgan rhyfel ar y glowyr. Efallai mai’r peth mwyaf anfaddeuol yw nad oedd cynllun, na hyd yn oed bwriad, i ddarparu cyflogaeth i gymunedau ar ôl cau’r pyllau. Crëwyd llawer o’r cymunedau hyn yn unswydd i ddarparu llety i weithwyr felly roedd y canlyniadau’n drychinebus, yn enwedig ym Mlaenau’r Cymoedd gan mai yr ardal hon sydd bellaf o ardaloedd trefol a chyflogaeth amgen.

“Gellir gweld gwaddol y polisi dideimlad hwn heddiw, gyda thlodi,  diweithdra diffyg symudedd cymdeithasol yn cael ei drosglwyddo drwy’r cenedlaethau mewn llawer o  achosion.”

Ychwanegodd Peredur: “Pe bawn i’n meddwl bod gan Brif Weinidog y DU gydwybod byddwn yn ychwanegu at y galwadau am ymddiheuriad ond dydw i ddim yn credu bod ganddo un. Mae’r sylwadau hyn yn brawf pellach, os oedd angen mwy, ei fod yn gwbl ddi-gysylltiad â phobl bob dydd.

“Hoffwn i Andrew RT Davies, arweinydd y Torïaid yng Nghymru, fyfyrio ar y sylwadau hyn a sydd wedi achosi cymaint o ddifrod i’r bobl y mae’n eu cynrychioli mewn ardaloedd fel y Rhondda, Pontypridd a Chwm Cynon. Dylai Andrew RT Davies ymuno â mi yn awr i gondemnio geiriau’r Prif Weinidog a galwaf arno i wneud hynny ar fyrder.

“Mae Cymru’n haeddu cymaint gwell na hyn.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle