Ganol haf, prynu het beanie fyddai’r peth olaf ym meddyliau’r mwyafrif o bobl, ond mae’r gwerthiannau o’r hetiau beanie cyfyngedig ac arnynt frand dathlu pen-blwydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 25 oed, eisoes wedi codi £500 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.
Y Rheolwr Gwylfa Adrian Davies yw dyfeisydd y cynllun, ac mae’n barod i gymryd rhagor o archebion ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
“Gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 25ain, cefais y syniad o greu rhywbeth gweledol i aelodau staff ei wisgo i nodi’r achlysur, a hefyd i godi arian i’n helusen, Elusen y Diffoddwyr Tân, ar yr un pryd.
Fy mab, Gareth, sy’n gweithio i gwmni criced (TNF Cricket) ac yn delio â dillad chwaraeon, a awgrymodd ein bod yn dylunio het beanie. Dangosodd i mi ddetholiad o’r eitemau y mae’r cwmni’n eu cynhyrchu, a phenderfynais fynd ar drywydd hyn trwy siarad â’r Gwasanaeth Tân a chael caniatâd i anfon ein bathodyn a’n logo at dîm dylunio’r cwmni.
Yn wreiddiol, roeddwn yn mynd i archebu 50 o hetiau, ond tyfodd y diddordeb yn gyflym, a bu’n rhaid i mi gynyddu’r archeb i 150 ar gyfer y swp cyntaf.
Mae’r adborth ar yr hetiau wedi bod yn gadarnhaol iawn a, hyd yn hyn, rydym wedi codi £500 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.
Gobeithio y bydd y galw yn cynyddu hyd yn oed yn fwy wedi i’r tywydd oerach ddychwelyd fel y gallwn godi mwy o arian i Elusen y Diffoddwyr Tân!”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle