Elusennau Iechyd Hywel Dda ar raddfeydd ar gyfer Ward 12, Withybush

0
345
Marsden scale ward 12 Withybush - staff nurse Rhian Dean

Diolch i’r rhoddion gan y gymuned leol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu cloriannau pwyso arbenigol ar gyfer cleifion hŷn ac eiddil ar Ward 12 yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae Cloriannau Trosglwyddo Cleifion Marsden yn gallu pwyso cleifion mewn eiliadau, gan fod iddi sleid drosglwyddo â graddfa bwyso ynddi.

Mae hyn yn galluogi’r claf i gael ei bwyso wrth gael ei drosglwyddo o droli i’r gwely, neu o un gwely i un arall, ac mae’n golygu y gellir rhoi meddygyniaeth neu driniaeth i’r claf yn gyflymach.

Dywedodd Alison Howells, Uwch Brif Nyrs Ward 12: “ Mae angen pwyso pob claf pan fyddant yn yr ysbyty er mwyn mesur meddygyniaeth a rheoli maeth.

“Ar adegau, mae’r cleifion sy’n dod atom yn ddifrifol wael, ac mae’n angenrheidiol pwyso’r cleifion yma er mwyn sicrhau ein bod yn rheoli eu gofal mewn ffordd briodol.

“Mae rhai o’n cleifion yn methu symud ac eraill yn rhy fregus i eistedd neu sefyll ar gloriannau – felly mae’r cloriannau hyn yn fwy diogel ac yn fwy cyffyrddus i’r cleifion.”

Ychwanegodd: “ Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion sydd wedi ein galluogi i dderbyn y cloriannau hygyrch yma sy’n cadw urddas y cleifion.”

Gweler Rhian Dean, nyrs staff yn y llun gyda’r cloriannau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle