Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian pen-blwydd gan fenyw o Sir Benfro

0
312
Judith is pictured handing over the cheque to Tess Phillips, Clinical Nurse Specialist.

Gofynnodd Judith Stamp am roddion yn lle anrhegion ar gyfer ei phen-blwydd a chododd £1,700 i Ysbyty Llwynhelyg i ddweud diolch am eu gofal ar ôl iddi gael diagnosis o ganser y fron.

Dywedodd Judith o Dale, Sir Benfro, a ddathlodd ei phen-blwydd ar 22 Mehefin, ei bod am ddiolch o galon i Mr Maxwell, Tess Phillips a’r Tîm Gofal y Fron.

Dechreuodd y cyfan gyda chwymp i lawr y grisiau ym mis Tachwedd 2020 ac ar ôl hynny deuthum o hyd i’r lwmp ofnadwy,” meddai Judith. “Wrth symud ymlaen o ddiagnosis canser y fron ym mis Rhagfyr, chemotherapi, dwy lawdriniaeth a gyda mwy o chemotherapi a thriniaeth i ddod, rwy’n gwneud yn dda ac mae llinell derfyn diwedd y clefyd erchyll hwn ar y gorwel.

“Mae derbyn diagnosis canser yn erchyll ar unrhyw adeg ond, yn fwy byth yn ystod COVID, nid yw anwyliaid bob amser yn gallu bod gyda chi mewn apwyntiadau. Mae’r Tîm Gofal y Fron wedi bod mor anhygoel a chefnogol gan roi nerth imi fynd trwy’r gwahanol gamau. Yn y bôn, mae’r tîm anhygoel hwn wedi achub fy mywyd a bywydau cymaint o bobl eraill ac roeddwn i eisiau dangos fy ngwerthfawrogiad. ”

Diolch i ymdrech godi arian Judith, mae’r Tîm Gofal y Fron yn mynd i brynu gobenyddion mastectomi i gynnig cysur ychwanegol i gleifion

Judith is pictured handing over the cheque to Tess Phillips, Clinical Nurse Specialist.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod yn ddiolchgar iawn am godi arian Judith.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn, ”meddai Nicola.

I gael mwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Yn y llun gwelir Judith yn trosglwyddo’r siec i Tess Phillips, Nyrs Arbenigol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle