Aelodau newydd yn ymuno â Thîm Parcmyn Haf Arfordir Penfro

0
336
Cadwch lygad am Barcmyn Haf newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Megan Greenhalgh (y gornel chwith uchaf), Megan Holt (y gornel dde uchaf), Maisie Sherratt (y gornel chwith isaf) a Lauren Dunkley (y gornel dde isaf).

Mae pedwar Parcmon Haf newydd wedi dechrau ar eu swyddi tymhorol yn cefnogi staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar lawr gwlad wrth i dymor prysur yr haf barhau.

Bydd Lauren Dunkley, Maisie Sherratt, Megan Greenhalgh a Megan Holt wrth law i gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i drigolion ac ymwelwyr ar draethau a lleoliadau allweddol eraill o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Rhai o brif gyfrifoldebau’r rolau hyn yw helpu pobl ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol drwy gynnig gweithgareddau am ddim fel archwilio pyllau creigiog, darparu canllawiau pwysig fel amseroedd y llanw ac adnoddau am ddim fel taflenni a’r papur newydd i ymwelwyr, Coast to Coast.

Gyda llawer mwy o bobl yn ymweld â’r ardal eleni, maent hefyd yn gallu cynnig arweiniad ar leoliadau amgen a defnyddio eu gwybodaeth leol i helpu i liniaru problemau gorlenwi.

Dywedodd Megan H., sy’n byw yn Nhyddewi ac a fydd yn gwasanaethu Gogledd a Gorllewin Sir Benfro yn bennaf: “Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno ymwelwyr chwilfrydig i’r ardal a dangos rhyfeddodau’r Parc Cenedlaethol iddynt, yn ogystal â bod yn rhan o’r gwaith gydag ysgolion, grwpiau a’r gymuned leol i’w galluogi i fwynhau eu Parc Cenedlaethol yn well.”

Dywedodd Maisie, sy’n byw ym Mhenfro ac a fydd yn gwasanaethu arfordir y de yn bennaf: “Fe wnes i astudio modiwlau ymgysylltu ag ymwelwyr yn y Brifysgol, felly mae’r cyfle i roi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith yn wych. Rwy’n gobeithio y bydd y swydd hon yn agor drysau newydd i mi, gan yr hoffwn weithio yn y sector hwn yn barhaol un diwrnod.”

Dywedodd Megan G., sy’n dod o Faenclochog ac a fydd wedi’i lleoli’n bennaf ar y traethau o amgylch arfordir y gogledd: “Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag amrywiaeth o bobl a rhannu fy angerdd dros y sir a’i bywyd gwyllt gyda nhw.

Ychwanegodd Lauren, sy’n byw yn Noc Penfro ac a fydd yn gwasanaethu’r de: “Rwy’n gobeithio ysbrydoli llawer o bobl a theuluoedd i archwilio rhyfeddodau’r Parc, gan ddod i adnabod y dirwedd, ei bywyd gwyllt a’i nodweddion arbennig.”

Dywedodd Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaethau Porthmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ehangu’r cynllun hwn i groesawu pedwar aelod newydd i’r tîm, ar ôl dechrau gydag dim ond un Parcmon Haf ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Mae cael pedwar Parcmon Haf yn ein galluogi i wasanaethu llawer mwy o’r arfordir a helpu mwy o bobl i fwynhau a dysgu am y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys pam ei bod yn bwysig bod yn ofalus a pheidio â gadael unrhyw olion; negeseuon sydd hyd yn oed yn fwy arwyddocaol wrth i fwy a mwy o bobl ymweld â’r Parc.”

I gael gwybod beth mae’r Parcmyn Haf yn ei wneud, hoffwch y dudalen @PembsCoastRangers ar Facebook neu dilynwch @SummerRangers ar Twitter.

Am ragor o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ewch i www.arfordirpenfro.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle