Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot longyfarch disgyblion ei ysgolion wrth iddynt ddathlu eu llwyddiannau TGAU.
Mae disgyblion wedi dangos cymaint o wydnwch a hyblygrwydd yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf ac mae angen i ni ddathlu a gwerthfawrogi’r canlyniadau hyn ar bob lefel yn llawn. Yn gyffredinol, mae’r safonau a gyflawnwyd gan garfan blwyddyn 11 2021 yn gryf iawn ac maent yn adlewyrchiad clir o waith caled disgyblion yn ystod eu gyrfa ysgol.
Er gwaethaf heriau digynsail a tharfu sylweddol i’w hastudiaethau ym mlwyddyn 10 ac 11 o ganlyniad i argyfwng COVID-19, mae disgyblion Castell-nedd Port Talbot wedi ennill canlyniadau rhagorol sy’n adlewyrchu eu hymrwymiad i’w haddysg.
Dyfarnwyd graddau TGAU eleni gan athrawon, fe’u cymedrolwyd gan uwch-arweinwyr ysgolion, ac maent yn seiliedig ar asesiadau parhaus cadarn iawn yn ystod cyfnod allweddol 4 dros gyfnod estynedig. Mae’r staff ysgolion Castell-nedd Port Talbot wedi gweithio’n ddiflino i bennu graddau a chasglu’r dystiolaeth. Rydym yn hyderus bod yr holl broses hon yn adlewyrchu ehangder y gwaith y mae disgyblion wedi’i wneud i ennill y canlyniadau hyn.
Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Ted Latham, “Rwy’n falch iawn o’n pobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau. Er bod hwn yn gyfnod digynsail, rhaid i ni gofio y gwnaed y rhan fwyaf o waith y disgyblion cyn i’r pandemig arwain at gau’r ysgolion, ac rwy’n sicr bod y canlyniadau a roddwyd yn adlewyrchu ymdrechion a gwydnwch y bobl ifanc yn llawn a bod ein pobl ifanc wedi ennill y canlyniadau y maent yn eu haeddu. Rwy’n siŵr bod eu rhieni, eu hysgolion a’u cymunedau hefyd yn ymfalchïo’n fawr yn eu llwyddiant.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant, “Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion ar eu llwyddiant a hefyd dalu teyrnged i bawb sydd wedi eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol dan amgylchiadau heriol iawn. Mae ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot unwaith eto wedi cyflawni canlyniadau da iawn yn wyneb llawer o newidiadau a heriau. Mae gen i lawer o hyder yn ein gweithlu addysgu ac rwy’n sicr y gall disgyblion symud ymlaen gyda’u canlyniadau cyfnod allweddol 4 i gam nesaf eu haddysg.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle